Deprecated: Optional parameter $field declared before required parameter $post is implicitly treated as a required parameter in /home/awrcymru/public_html/wp-content/plugins/pc-google-analytics/includes/lib/class-pc-google-analytics-admin-api.php on line 281

Deprecated: Return type of HM\BackUpWordPress\CleanUpIterator::accept() should either be compatible with FilterIterator::accept(): bool, or the #[\ReturnTypeWillChange] attribute should be used to temporarily suppress the notice in /home/awrcymru/public_html/wp-content/plugins/backupwordpress/classes/class-path.php on line 456
Pencampwriaeth Bara Brith y Byd – Awr Cymru
Pencampwriaeth Bara Brith y Byd

Pencampwriaeth Bara Brith y Byd cyntaf yn cael ei lansio

Gwahoddir pobyddion brwd o bedwar ban byd i gyflwyno eu fersiwn nhw o un o gacennau enwocaf o Gymru, fel rhan o Bencapwriaeth Bara Brith y Byd Creision Jones sydd i’w chynnal yn mis Tachwedd yn Llandudno.

Gyda gwobr ariannol o £100 ar gael i’r enillydd ynghyd â chyflenwad blwyddyn o greision Cymreig Jones, caiff y Pencampwriaeth ei gynnal mewn partneriaeth gyda Ffair Nadolig Llandudno.

“Mae cyd-weithio gyda’r Ffair yn gwneud synnwyr,” meddai Geraint Hughes, cyd-berchennog Creision Jones. “Mae’n un o farchnadoedd bwyd Nadolig amlycaf Cymru, a bydd modd i bobyddion ddod â’u Bara Brith ar y dydd Iau, Tachwedd 17eg, a chael cyfle i fwynhau atyniadau’r Ffair yr un pryd. Bydd ein panel o feirniaid uchel eu parch yn penderfynu ar y Bara Brith Gorau yn y Byd ar y dydd Gwener canlynol.”

Gall ymgeiswyr hefyd ddanfon eu Bara Brith i’r Pencampwriaeth drwy ddanfon i un o nifer o fannau codi fydd ar gael ar draws Cymru, neu drwy’r post, gan y disgwylir ddiddordeb o bell ac agos.

“Rydym yn disgwyl ceisiadau yn lythrennol o bob cwr o’r Byd, gyda pobyddion o Siapan eisioes wedi mynegi diddordeb mewn cystadlu,” nododd Geraint Hughes. “Dydi hyn ddim yn syndod mewn gwirionedd pan rydach chi’n meddwl pa mor boblogaidd yw Bara Brith, mae’n un o drysorau bwyd Cymru.”

Yn ymrafael â’r dasg beirniadu fydd Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr, Sally Owens, darlithydd yng Ngholeg Llandrillo ac sydd wedi cipio sawl gwobr cydnabyddiedig am bobi cacennau, a Rhian Mostyn Jones, sydd gydai’i gwr Gareth Wyn Jones yn rhedeg fferm ddefaid mynydd deuleuol Ty’n Llwyfan yn Llanfairfechan.

“Rydym wedi penderfynu cadw’r meini prawf mor eang â phosib er mwyn annog amrywiaeth,” esboniodd Tegwen Morris, “er gallai hynny wneud ein tasg yn anoddach. Byddwn yn gofyn i bawb sy’n ceisio gynnwys darn o bapur gyda rhestr o gynhwysion ei Bara Brith arno, gan y bydd yn helpu’r broses feirniadu.”

Yn ymuno â’r Merched y Wawr fel partner yn y Bencampwriaeth mae Go North Wales, Canolfan Bwyd Cymru Bodnant a Siambr Fasnach Llandudno.

“Pa ffordd well i godi proffil un o’n cynnyrch bwyd Cymreig mwyaf eiconig na thrwy gynnal Pencampwriaeth Bara Brith y Byd Cresion Jones,” meddai Jim Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Go North Wales, a baratôdd blog yn ddiweddar ar Bara Brith i dwristiaid o dramor. “Bydd y digwyddiad yn siwr o’n helpu ni i allu hyrwyddo ein cynnig ardderchog o fwyd a diod i ymwelwyr yn yr ardal.”

I gyd-fynd â’r Bencampwriaeth, bydd Siambr Fasnach Llandudno yn cydlynu “Llwybr Cacennau” o gwmpas detholiad o fusnesau manwerthu yn y dref, a bydd Canolfan Fwyd Cymru Bodnant yn pobi’r Bara Brith buddugol i’w werthu at y Nadolig.

“Nid yn unig bydd yr enillydd yn cipio’r teitl anrhydeddus o Bencampwr Pobi Bara Brith y Byd, sydd gyda llaw yn llawer mwy o gamp na ennill y ‘Great British Bake Off’”, meddai Geraint Hughes, “bydd o neu hi yn cael y cyfle o weld ei bara birth nhw’n bersonol yn cael ei gynhyrchu gan grefftwyr pobi Bodnant i’w werthu i’r cyhoedd.”Bydd angen i bobyddion sydd am gystadlu gofrestru o flaen llaw erbyn hanner nos, nos Sadwrn Tachwedd 12fed, drwy e-bostio blas@madryn.co.uk neu ffonio 01758 701380. Cwmni Creision Jones fydd yn gweinyddu a chydlynu’r Pencampwriaeth, a gellir derbyn y newyddion diweddaraf ar ei gwefan www.madryn.co.uk neu o’i cyfrif trydar @JonesoGymru

Caiff yr enillydd ei gyflwyno ar ddydd Gwener, Tachwedd 18fed yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno.

Pencampwriaeth Bara Brith y Byd

Yn lansio Pencampwriaeth Bara Brith y Byd Creision Jones yng Nghanolfan Fwyd Cymru Bodnant mae, chwith i’r dde, Jim Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Go North Wales, Geraint Hughes, Cyd-berchennog Creision Jones, Simon Burrows, Rheolwr Datblygu Busnes yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant, Barry Mortlock, Swyddog Datblygu Ffair Nadolig Llandudno, Gary Worrell, Crefftwr Pobi yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant ac Eileen Burrows of Siambr Fasnach Llandudno.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *