Mwy Am Dîm Awr Cymru
Huw Marshall
Am y 4 blynedd diwethaf mae Huw wedi bod yn gyfrifol am arwain gweithgaredd digidol S4C gan ddatblygu a gweithredu strategaeth ddigidol newydd ar gyfer y sianel. Mae hyn wedi gweld datblygiad rhyngwyneb gwylio newydd ar-lein ar gyfer y sianel, cynyddu gweithgarwch y sianel ar rwydweithiau cymdeithasol a chomisiynu cynnwys newydd ar gyfer y gofod digidol gan gynnwys y sianel YouTube @5Pump.
Ers sefydlu’r awr Twitter Cymraeg gyntaf yn Nhachwedd 2012 @yrawrgymraeg mae Huw wedi bod yn weithgar yn amlygu defnydd o’r Gymraeg yn y byd digidol. Trwy lansio Awr Cymru mae’n ffyddiog bydd y Gymraeg yn tyfu yn y byd digidol.
Mae hefyd yn gadeirydd ar Gemau Cymru, y corf sy’n goruchwylio’r diwydiant gemau cyfrifiadurol yng Nghymru ac mae hefyd yn aelod o’r CADC, Cyngor Addysgu Digidol Cymru, y corff sy’n ymgynghori’r gweinidog addysg ar y defnydd o ddigidol o fewn y gofod addysg yng Nghymru.
Angharad Dalton
Mae Angharad Dalton yn arbenigo mewn llythrennedd digidol a chreu cynnwys digidol.
Mae Angharad wedi cyffroi gan bosibiliadau technoleg ddigidol a’i botensial trawsnewidiol i gymdeithasau. Mae diddordeb arbennig gyda hi yn esblygiad gofodau ar-lein, a’i photensial fel offer cyfathrebu amlweddog.
Trwy ei gwaith gyda’r Sefydliad Materion Cymreig a Phrifysgol De Cymru, dros y chwe blynedd diwethaf, mae Angharad wedi datblygu arbenigedd yn y cyfryngau cymdeithasol, gwaith straeon digidol ac ymddygiad ar-lein.
Dewi Jones
Wedi’i leoli ger Conwy yng ngogledd Cymru, mae Dewi wedi bod yn gweithio yn y byd hyfforddiant am 15 mlynedd ac wedi bod yn gweithio fel ymgynghorwr cyfryngau cymdeithasol ers 3 mlynedd.
Mae o hefyd yn llysgennad gwirfoddol i Hootsuite, aelod o brosiect Twitter Insiders ac aelod o banel Lab Amaeth Cyswllt Ffermio.
Pan mae Dewi ddim yn gwneud gwaith hyfforddi ac ymgynghori mae o’n gweithio ar y ffarm ddefaid teuluol.