Deprecated: Return type of HM\BackUpWordPress\CleanUpIterator::accept() should either be compatible with FilterIterator::accept(): bool, or the #[\ReturnTypeWillChange] attribute should be used to temporarily suppress the notice in /home/awrcymru/public_html/wp-content/plugins/backupwordpress/classes/class-path.php on line 456
Y Newyddion – Awr Cymru

fullsizerenderMewn oes gynyddol ddigidol mae’r dewis o sut mae unigolyn yn derbyn ei newyddion yn newid o ddydd i ddydd, o awr i awr. Mae cyfryngau cymdeithasol wedi esblygu’n sianeli newyddion, faint ohonom, erbyn heddiw, sy’n derbyn y mwyafrif o’n newyddion trwy twitter? Neu drwy Ap newyddion fel un y BBC neu Apple News?
Mae’n ffaith fod cylchrediadau papurau print traddodiadol wedi bod yn gostwng flwyddyn ar flwyddyn ers blynyddoedd, ond mae marwolaeth araf a phoenus y wasg draddodiadol, mae’r nifer sy’n gweithio yn y maes hwn wedi gostwng yn sylweddol dros ddegawd, wedi gweld esblygiad trawiadol mewn llwyfannau newyddion digidol, nifer yn deillio o deitlau hanesyddol, ond hefyd nifer o wynebau newydd, enwau sydd erbyn hyn yn gyfarwydd, Vice a’r Canary i enwi ond dau. Ac rydym yr un mor gyfarwydd a derbyn newyddion gan ffynonellau rhyngwladol, yn enwedig rhai o dros yr Iwerydd yn yr UDA.
Ond tra bod y cynnydd mewn gwasanaethau newyddion Saesneg eu hiaith yn cynyddu a llenwi’n llinellau amser mae’r arlwy Gymraeg yn segur. Mae BBC Cymru Fyw wedi ennill ei le fel y prif wasanaeth newyddion digidol yn y Gymraeg ers ei lansiad yn 2012 gan gynnig gwasanaeth cynhwysfawr aml blatfform, mae yna wasanaethau eraill sy’n gweithredu yn yr un gofod a Cymru Fyw y mwyaf amlwg yw Golwg 360, gwasanaeth sy’n derbyn nawdd ariannol gan y llywodraeth trwy’r cyngor llyfrau ac mae’r Cymro gydag ôl troed ddigidol erbyn hyn.

Oes le felly am lais newydd ym myd newyddion Cymru, un sy’n targedu cynulleidfa iau sy’n cynnig mynediad i’r newyddion mewn modd hygyrch a gweledol?
Dros yr wythnosau diwethaf mae Awr Cymru wedi bod yn datblygu cynllun ar gyfer sefydlu gwasanaeth newydd o’i bath, gwasanaeth newydd, gyda model busnes newydd. Dros yr wythnosau nesaf fe fyddwn yn cynnal ymgynghoriad lle fyddwn yn rhannu ein gweledigaeth ac asesu potensial sefydlu gwasanaeth newydd o’i bath.
Mae’r ymateb hyd yma wedi bod yn galonogol iawn gyda nifer o gwmnïau digidol amlwg a rhai newydd yn cynnig eu cefnogaeth a thechnoleg i’r fenter. Edrychwn ymlaen at glywed eich ymateb…..

Dilynwch @ynewyddion ar twitter i glywed y diweddaraf am y fenter.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *