Heddiw fe gyhoeddodd llywodraeth Cymru strategaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg, un fydd yn sicrhau, gobeithio, ein bod yn cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.
Yr ydym ni fel cynrychiolwyr o’r Awr Gymraeg yn croesawu’r strategaeth ac yn cefnogi ei amcanion a hoffwn awgrymu bod yma gyfle i fireinio un elfen mae’r strategaeth yn cyffwrdd arno sef yr achos economaidd. Sut gall y Gymraeg fod yn yrrwr economaidd mewn economi digidol rhyngwladol sy’n datblygu ar raddfa syfrdanol. Ddoe fe gyhoeddodd Huw Marshall sylfaenydd yr Awr erthygl Saesneg ar y llwyfan medium yn trafod y potensial economaidd unigryw gall dwyieithrwydd yn y Gymraeg a Saesneg gynnig i Gymru, gellir darllen yr erthygl yn llawn drwy glicio yma.
Da ni’n anghofio’n rhy aml fod yr iaith yn berthnasol i nifer sylweddol o bobol sy’n trigo yma yng Nghymru, dros glawdd Offa a dros y moroedd ym mhob cyfandir pell. Mae dros hanner miliwn o oedolion sy’n medru’r Gymraeg yn trigo ym Mhrydain, hanner miliwn o bobol sydd wedi ei uno drwy’r iaith Gymraeg, hanner miliwn y gellir ei thargedu fel grŵp economaidd. Rydym yn gyfarwydd â’r punnoedd pinc, llwyd a phorffor sy’n cyfeirio at rym pwrcasu gwahanol garfanau o gymdeithas, mae’n amser trafod y bunt Gymraeg.
Mae grym y bunt Gymraeg yn croesi ffiniau ieithyddol, faint o bobol di Gymraeg sydd yn ac wedi danfon eu plant trwy’r sustem addysg Gymraeg? Faint sydd â theuluoedd estynedig sy’n ymfalchïo yn y ffaith fod y Gymraeg, mewn sawl achos, yn dychwelyd i’r teulu? A be am yr 85% a nododd mewn arolwg gan y comisiynydd y Gymraeg fod yr iaith yn rhywbeth i drysori? Yn sydyn reit da ni’n sôn am ffigwr agosach at ddwy filiwn o bobol lle mae targedu trwy farchnata yn y Gymraeg yn mynd i ddylanwadu.
Mae angen amlygu i fusnesau bach a mawr, yma yng Nghymru a dros y ffin, o’r budd economaidd sy’n deillio o ddefnyddio’r Gymraeg. Gall defnyddio’r Gymraeg gwneud i’ch busnes sefyll allan yn erbyn eich cystadleuwyr, cynyddu eich gwerthiannau, cynyddu eich incwm ac elw.
Mae’r Awr Gymraeg, a sefydlwyd yn ôl yn Nhachwedd 2012, yn dal i dyfu, mae’r hashnod #yagym (Yr Awr GYMraeg) yn cyrraedd dros 6,000,000 o linellau amser a 1,000,000 o gyfrifon unigol potensial pob wythnos yn rheolaidd, mae’r dilyniant a’i chyrhaeddiad yn parhau i dyfu. Mae’r ffaith fod y Gymraeg o fewn negeseuon hyrwyddo a marchnata ar Twitter yn mynd mor bell yn helpu normaleiddio’r Gymraeg, yn codi ymwybyddiaeth o’i fodolaeth fel iaith byw a chyfoes.
Mae’r potensial i ddefnyddio dwyieithrwydd o fewn ein gwlad fel gyrrwr economaidd, fel allwedd sy’n datgloi drws i economi digidol rhyngwladol wedi ei amlygu yn yr erthygl a nodwyd uchod. Trwy gyfuno’r sgil unigryw o ddwyieithrwydd sy’n perthyn i gannoedd o filoedd yng Nghymru a manteision y bunt Gymraeg bydd y targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yn cael ei weld fel targed ceidwadol.
Diwedd y gan yw’r geiniog. Os am ddenu fwy o bobol at yr iaith pa ffordd well o annog unigolion i ddysgu a defnyddio’r iaith tu hwnt i waliau’r dosbarth a ffiniau’r ysgol na’r foronen o fantais economaidd hir dymor.
Bydd hyn yn arwain at ffyniant organig o’r iaith, yn hybu’r diwydiannau creadigol, twristiaeth a digidol.
Mae’r dyfodol yn ddisglair, mae’r dyfodol yn un Gymraeg.
Cofiwch ymuno a @yrawrgymraeg pob nos Fercher rhwng 8 a 9, ychwanegwch yr hashnod #yagym i’ch neges hyrwyddo neu farchnata ac fe rannwn a dros 9,000 o ddilynwyr. Ewch draw i’n tudalen Facebook a hoffwch.
Diolch