Deprecated: Optional parameter $field declared before required parameter $post is implicitly treated as a required parameter in /home/awrcymru/public_html/wp-content/plugins/pc-google-analytics/includes/lib/class-pc-google-analytics-admin-api.php on line 281

Deprecated: Return type of HM\BackUpWordPress\CleanUpIterator::accept() should either be compatible with FilterIterator::accept(): bool, or the #[\ReturnTypeWillChange] attribute should be used to temporarily suppress the notice in /home/awrcymru/public_html/wp-content/plugins/backupwordpress/classes/class-path.php on line 456
Cymryd Marchnata a Hyrwyddo yn y Gymraeg i’r Lefel Nesaf… – Awr Cymru

Sefydlwyd yr Awr Gymraeg yn ôl yn 2012 fel awr Twitter i hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau busnesau a sefydliadau. O’r hedyn a blannwyd mae’r Awr wedi tyfu i’r pwynt lle ar ddechrau 2017 mae dros 8,000 o ddilynwyr gan y cyfrif. Yn ystod 2016 mi wnaeth yr hashnod #yagym gyrraedd 197,251,274 o linellau amser a 9,689,752 o gyfrifon Twitter.

Does dim dadlau bod yr Awr wedi bod yn llwyddiant, ond mae Huw Marshall a Dewi Eirig Jones, trefnwyr yr Awr a dau o gyfarwyddwyr Awr Cymru, yn awyddus i ddatblygu’r Awr a’i gymryd i’r lefel nesaf.

Mae’r Awr wedi lansio ymgyrch ariannu torfol i wireddu hyn, mae modd gyfrannu yma.

Sut mae cyflawni hyn felly, a sut bydd yr arian yn cael ei wario?

Mae Twitter yn gyfrwng gwych, ond mae ganddo ei gyfyngderau. Er ei fod dal yn boblogaidd mae natur y llwyfan yn golygu bod sicrhau bod cymuned Yr Awr Gymraeg yn derbyn negeseuon yn anodd. Wrth i ni siarad yn gyhoeddus mewn cynadleddau ar hyd a lled Cymru mae ymwybyddiaeth o’r Awr dal yn gymharol isel, sydd yn ei hun yn beth galonogol, mae’n golygu fod yna cynulleidfa enfawr allan yna yng Nghymru a thu hwnt ar gael i gyrraedd.

Lle mae’r gynulleidfa yma? Facebook a’r we…… Mae angen i ni felly ehangu ôl troed yr Awr i’r gofodau, newydd i’r Awr Gymraeg, dylanwadol hyn. Gwyddwn fod dros 200,000 o gyfrifon Facebook wedi ticio’r blwch iaith “Cymraeg” hoffwn gyrraedd y mwyafrif o rain gyda gwybodaeth am wasanaethau a chynnyrch gymuned yr Awr Gymraeg.

Mae Google dal yn ddylanwadol iawn wrth i bobol chwilio’r byd digidol, am wybodaeth, gwasanaethau, cynnyrch a digwyddiadau. Bydd yr arian yn ein galluogi i adeiladu gwefan fydd yn gartref i wybodaeth am gymuned yr Awr Gymraeg, yr unigolion, cwmnïau a sefydliadau sy’n defnyddio’r Awr, eu cynnyrch a gwasanaethau. Bydd map rhyngweithiol yn dangos lleoliadau ‘r busnesau a sefydliadau sy’n defnyddio’r Gymraeg. Bydd calendr digwyddiadau, gyda’r digwyddiadau yma yn ymddangos ar y map.

Bydd ofod i erthyglau, podlediadau a fideos byr am aelodau’r gymuned.

Hoffwn ddatblygu “marchnad” ar gyfer cynnyrch Cymraeg mewn partneriaeth a chwmnïau Cymraeg. Bydd modd i unigolion sydd ddim ar Twitter gweld negeseuon hyrwyddo sy’n defnyddio’r hashnod #yagym.

Gyda defnydd da o SEO (y broses o sicrhau fod gwybodaeth o fewn gwefannau yn ymddangos ar frig o unrhyw chwilio ar y we) gallwn sicrhau fod cwmnïau Cymraeg yn dod yn fwy amlwg ar y we.

Bydd rheoli’r Awr ar Twitter, rheoli cynnwys y gwefan rheoli’r SEO, creu cynnwys ar gyfer ein tudalen Facebook a thyfu ein cynulleidfa ar Facebook yn cymryd amser.

Bydd yr arian yn ein galluogi i dalu unigolyn i weithio 16 awr yr wythnos am 5 mis, yn cynorthwyo Huw a Dewi yn y gwaith maent yn ei gyflawni’n wirfoddol ar hyn o bryd.

Y nod ar ddiwedd y 5 mis yw bod yn hunan cynhaliol, i fod mewn sefyllfa lle mae modd i ni ennill incwm drwy hysbysebu a gweithgareddau masnachol. Os gall 300 o bobol gyfrannu £20 yr un, fe fyddwn yn cyrraedd ein nod ag yn medru sicrhau’r gefnogaeth gorau posib i’r Gymraeg yn y byd digidol.

Gyda’ch cefnogaeth gallwn gyflawni hyn.

Diolch

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *