Yr Awr Gymraeg
Mae ’na awr sy’n mynnu erwau y we’n
wyrth o drydariadau,
lle i’n cân gael llenwi cae’n
hen go’ a hawlia gaeau.
Awr Gymraeg a’i muriau hi’n ehangu
rhag angau, a geni
wna’r awr hon ru â’i hynni
newydd yw’r welydd ’weli.
Â’r heniaith ar ei hunion, â’r alwad
ar hewl o orwelion
i lannau diffiniau y ffôn
yn seiat o negeseuon.
Awr ein hiaith yn rhannu o hyd, awr rhoi
ac awr yw i gymryd,
awr boeth yw awr orau’r byd,
awr o haf yw’r awr hefyd.
– Aneirin Karadog
Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar wefan Llenyddiaeth Cymru fel rhan o Her 100 Cerdd
http://www.llenyddiaethcymru.org/lw-blog/100-cerdd-9/