Deprecated: Return type of HM\BackUpWordPress\CleanUpIterator::accept() should either be compatible with FilterIterator::accept(): bool, or the #[\ReturnTypeWillChange] attribute should be used to temporarily suppress the notice in /home/awrcymru/public_html/wp-content/plugins/backupwordpress/classes/class-path.php on line 456
Hyder a bolycs – Awr Cymru


Lolz, yntife?

Ond, fel mae’n digwydd, mae’r ddelwedd hon yn hynod arwyddocaol i bwrpas Awr Cymru…

Bolycs Cymraeg yw un o’n prif allbynnau cwmniol ar hyn o bryd. A gyda dros 7,366 yn ein dilyn ar Twitter, 16,182 o bobl yn ein hoffi ar Facebook, a 4,123 ar Instagram mae’n waith mae pobl yn amlwg ei mwynhau.

Mae pwrpas Bolycs Cymraeg yn un syml. Cyfrif uniaith Gymraeg sy’n cymryd pynciau Cymreig a rhoi spin digrif ac weithiau absẃrd trwy luniau a thestun. Oedd fyrder o gynnwys doniol Gymraeg yn bodoli yn y byd digidol oedd ar gael i bobl rannu a thrafod. Er bod yna lot o Gymry ar Facebook, Twitter ac Instagram mae yna ganran sylweddol sydd ddim a’r hyder eto i greu negeseuon personol yn y Gymraeg ond maent yn fodlon rhannu. Mae Bolycs yn magu hyder a gobeithio’n cynyddu amlygrwydd y Gymraeg ar rwydweithiau cymdeithasol a dangos i’r Gymraeg a di Gymraeg bod cynnwys digidol yn iaith y nefoedd yn cael ei rannu’n helaeth.

Serch hyn, mae’n syndod sawl person sy’n meddwl ei fod yn HANFODOL PWYSIG i sicrhau ein bod ni gyd yn gwybod mae CH yn lle C dylen ni wedi defnyddio wrth linio sylw sili i gyd-fynd gyda delwedd ddwl. Yn aml, bydd y rhain yn dadlau ei fod yn helpu’r iaith wrth neud…

Ein cred ni yw bod y plismon iaith ‘ma mond yn niweidio’r iaith trwy chwalu ymdrechion ehangach i fagu hyder ym mhob un sy’n berchen ar allu Cymraeg ond yn diodde’ o ddiffyg hyder.

Mae croeso i bawb cymryd rhan yn y bolycs o gwmpas bolycs Cymraeg – so ni’n barnu, a s’dim hawl gan neb arall i neud chwaith. Wedi datblygu polisi sylwadau i’r cyfrif, rydym yn gobeithio ein bod yn dangos esiampl bositif o’r ffordd i weithredu yn ddigidol er mwyn gwir helpu’r achos ieithyddol.

Llun: http://some.ly/ap6jf0

 

By admin