Deprecated: Optional parameter $field declared before required parameter $post is implicitly treated as a required parameter in /home/awrcymru/public_html/wp-content/plugins/pc-google-analytics/includes/lib/class-pc-google-analytics-admin-api.php on line 281

Deprecated: Return type of HM\BackUpWordPress\CleanUpIterator::accept() should either be compatible with FilterIterator::accept(): bool, or the #[\ReturnTypeWillChange] attribute should be used to temporarily suppress the notice in /home/awrcymru/public_html/wp-content/plugins/backupwordpress/classes/class-path.php on line 456

Warning: Cannot modify header information - headers already sent by (output started at /home/awrcymru/public_html/wp-content/plugins/pc-google-analytics/includes/lib/class-pc-google-analytics-admin-api.php:281) in /home/awrcymru/public_html/wp-includes/feed-rss2.php on line 8
llywodraeth cymru – Awr Cymru https://awr.cymru Poblogi’r Dirwedd Ddigidol Gymraeg Sun, 07 Aug 2016 19:02:19 +0000 en-GB hourly 1 https://wordpress.org/?v=6.4.4 https://i0.wp.com/awr.cymru/wp-content/uploads/2016/07/cropped-Slack-for-iOS-Upload-1.jpg?fit=32%2C32&ssl=1 llywodraeth cymru – Awr Cymru https://awr.cymru 32 32 114837018 Dwyieithrwydd, y fwled arian economaidd fydd yn sicrhau’r filiwn.  https://awr.cymru/dwyieithrwydd-y-fwled-arian-economaidd-fydd-yn-sicrhaur-filiwn/ https://awr.cymru/dwyieithrwydd-y-fwled-arian-economaidd-fydd-yn-sicrhaur-filiwn/?noamp=mobile#respond Sun, 07 Aug 2016 18:36:08 +0000 http://awr.wales/?p=160 FullSizeRenderUn o brif ddigwyddiadau’r Eisteddfod, ar wahân i lansiad swyddogol Awr Cymru, oedd lansiad papur ymgynghori, gan lywodraeth Cymru, oedd yn amlinellu uchelgais i greu Cymru sy’n ymateb mewn ffordd wedi’i chynllunio i’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, ac i gynyddu nifer y bobl sy’n dysgu’r iaith ac yn gallu ei defnyddio gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle.

Y nod yn ôl Carwyn Jones, prif weinidog Cymru, ac Alun Davies, y gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg yn llywodraeth Cymru, yw cyrraedd 1,000,000 o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, targed uchelgeisiol o ystyried yr ystadegau a ddaeth i’r amlwg yn dilyn cyfrifiad 2011.

Da oedd clywed y ddau yn siarad gydag angerdd a hyder a does dim amau, yn fy marn i, eu bod o ddifrif ynglŷn â sicrhau llwyddiant i’r cynllun. Sut felly gallwn gyrraedd y nod hon?

Yr un gair sydd ar goll yn y drafodaeth ar hyn o bryd yw “economi”, os gallwn amlygu gwerth economaidd dwy ieithrwydd fel sgil benodol yn yr economi digidol rhyngwladol newydd mae’r ddadl dros gynyddu darpariaeth addysg Gymraeg wedi ei ennill.

Yr iaith yw’r arf economaidd mwyaf grymus sydd yn feddiant ein gwlad. Pe baech am agor cwmni newydd digidol heddiw lle yw’r lleoliad delfrydol? Brighton? Caergrawnt? Llundain neu Dundee? Mae’r pedwar yn byrlymu a gweithwyr talentog, ond mae’r mwyafrif llethol dan un anfantais, unieithrwydd.

Wrth greu cynnyrch digidol heddiw mae yna angen cynyddol i’r allbwn fod ar gael mewn nifer o ieithoedd, Saesneg a’r iaith frodorol. Mae’r rhai ohonom sydd yn ddigon ffodus i feddu a’r gallu i feddwl mewn dwy iaith medru gweld pan mae cyfieithiad slafaidd a gwael wedi ei weithredu drwy lwyfan fel Google Translate. Mae creu cynnyrch yn y Saesneg ac iaith arall, Cymraeg yn ein hachos ni, yn gam enfawr ar y ffordd o greu fersiwn ryngwladol.

Felly, ai dwyieithrwydd yw’r fwled arian economaidd fydd yn helpu ni gyrraedd y filiwn?

]]>
https://awr.cymru/dwyieithrwydd-y-fwled-arian-economaidd-fydd-yn-sicrhaur-filiwn/feed/ 0 160