Deprecated: Optional parameter $field declared before required parameter $post is implicitly treated as a required parameter in /home/awrcymru/public_html/wp-content/plugins/pc-google-analytics/includes/lib/class-pc-google-analytics-admin-api.php on line 281

Deprecated: Return type of HM\BackUpWordPress\CleanUpIterator::accept() should either be compatible with FilterIterator::accept(): bool, or the #[\ReturnTypeWillChange] attribute should be used to temporarily suppress the notice in /home/awrcymru/public_html/wp-content/plugins/backupwordpress/classes/class-path.php on line 456

Warning: Cannot modify header information - headers already sent by (output started at /home/awrcymru/public_html/wp-content/plugins/pc-google-analytics/includes/lib/class-pc-google-analytics-admin-api.php:281) in /home/awrcymru/public_html/wp-includes/feed-rss2.php on line 8
iaith – Awr Cymru https://awr.cymru Poblogi’r Dirwedd Ddigidol Gymraeg Tue, 11 Jul 2017 20:39:25 +0000 en-GB hourly 1 https://wordpress.org/?v=6.4.4 https://i0.wp.com/awr.cymru/wp-content/uploads/2016/07/cropped-Slack-for-iOS-Upload-1.jpg?fit=32%2C32&ssl=1 iaith – Awr Cymru https://awr.cymru 32 32 114837018 Cyrraedd y Filiwn – Strategaeth yr Iaith Gymraeg https://awr.cymru/cyrraedd-y-filiwn-strategaeth-yr-iaith-gymraeg/ https://awr.cymru/cyrraedd-y-filiwn-strategaeth-yr-iaith-gymraeg/?noamp=mobile#respond Tue, 11 Jul 2017 20:38:42 +0000 http://awr.cymru/?p=396 Heddiw fe gyhoeddodd llywodraeth Cymru strategaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg, un fydd yn sicrhau, gobeithio, ein bod yn cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg  erbyn y flwyddyn 2050.

Yr ydym ni fel cynrychiolwyr o’r Awr Gymraeg yn croesawu’r strategaeth ac yn cefnogi ei amcanion a hoffwn awgrymu bod yma gyfle i fireinio un elfen mae’r strategaeth yn cyffwrdd arno sef yr achos economaidd. Sut gall y Gymraeg fod yn yrrwr economaidd mewn economi digidol rhyngwladol sy’n datblygu ar raddfa syfrdanol. Ddoe fe gyhoeddodd Huw Marshall sylfaenydd yr Awr erthygl Saesneg ar y llwyfan medium yn trafod y potensial economaidd unigryw gall dwyieithrwydd yn y Gymraeg a Saesneg gynnig i Gymru, gellir darllen yr erthygl yn llawn drwy glicio yma.

Da ni’n anghofio’n rhy aml fod yr iaith yn berthnasol i nifer sylweddol o bobol sy’n trigo yma yng Nghymru, dros glawdd Offa a dros y moroedd ym mhob cyfandir pell. Mae dros hanner miliwn o oedolion sy’n medru’r Gymraeg yn trigo ym Mhrydain, hanner miliwn o bobol sydd wedi ei uno drwy’r iaith Gymraeg, hanner miliwn y gellir ei thargedu fel grŵp economaidd. Rydym yn gyfarwydd â’r punnoedd pinc, llwyd a phorffor sy’n cyfeirio at rym pwrcasu gwahanol garfanau o gymdeithas, mae’n amser trafod y bunt Gymraeg.

Mae grym y bunt Gymraeg yn croesi ffiniau ieithyddol, faint o bobol di Gymraeg sydd yn ac wedi danfon eu plant trwy’r sustem addysg Gymraeg? Faint sydd â theuluoedd estynedig sy’n ymfalchïo yn y ffaith fod y Gymraeg, mewn sawl achos, yn dychwelyd i’r teulu? A be am yr 85% a nododd mewn arolwg gan y comisiynydd y Gymraeg fod yr iaith yn rhywbeth i drysori? Yn sydyn reit da ni’n sôn am ffigwr agosach at ddwy filiwn o bobol lle mae targedu trwy farchnata yn y Gymraeg yn mynd i ddylanwadu.

Mae angen amlygu i fusnesau bach a mawr, yma yng Nghymru a dros y ffin, o’r budd economaidd sy’n deillio o ddefnyddio’r Gymraeg. Gall defnyddio’r Gymraeg gwneud i’ch busnes sefyll allan yn erbyn eich cystadleuwyr, cynyddu eich gwerthiannau, cynyddu eich incwm ac elw.

Mae’r Awr Gymraeg, a sefydlwyd yn ôl yn Nhachwedd 2012, yn dal i dyfu, mae’r hashnod #yagym (Yr Awr GYMraeg) yn cyrraedd dros 6,000,000 o linellau amser a 1,000,000 o gyfrifon unigol potensial pob wythnos yn rheolaidd, mae’r dilyniant a’i chyrhaeddiad yn parhau i dyfu. Mae’r ffaith fod y Gymraeg o fewn negeseuon hyrwyddo a marchnata ar Twitter yn mynd mor bell yn helpu normaleiddio’r Gymraeg, yn codi ymwybyddiaeth o’i fodolaeth fel iaith byw a chyfoes.

Mae’r potensial i ddefnyddio dwyieithrwydd o fewn ein gwlad fel gyrrwr economaidd, fel allwedd sy’n datgloi drws i economi digidol rhyngwladol wedi ei amlygu yn yr erthygl a nodwyd uchod. Trwy gyfuno’r sgil unigryw o ddwyieithrwydd sy’n perthyn i gannoedd o filoedd yng Nghymru a manteision y bunt Gymraeg bydd y targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yn cael ei weld fel targed ceidwadol.

Diwedd y gan yw’r geiniog. Os am ddenu fwy o bobol at yr iaith pa ffordd well o annog unigolion i ddysgu a defnyddio’r iaith tu hwnt i waliau’r dosbarth a ffiniau’r ysgol na’r foronen o fantais economaidd hir dymor.

Bydd hyn yn arwain at ffyniant organig o’r iaith, yn hybu’r diwydiannau creadigol, twristiaeth a digidol.

Mae’r dyfodol yn ddisglair, mae’r dyfodol yn un Gymraeg.

Cofiwch ymuno a @yrawrgymraeg pob nos Fercher rhwng 8 a 9, ychwanegwch yr hashnod #yagym  i’ch neges hyrwyddo neu farchnata ac fe rannwn a dros 9,000 o ddilynwyr. Ewch draw i’n tudalen Facebook a hoffwch.

Diolch

]]>
https://awr.cymru/cyrraedd-y-filiwn-strategaeth-yr-iaith-gymraeg/feed/ 0 396
Ffwtbol Gwleidyddol? | Swyddle https://awr.cymru/ffwtbol-gwleidyddol-swyddle/ https://awr.cymru/ffwtbol-gwleidyddol-swyddle/?noamp=mobile#respond Fri, 05 Aug 2016 16:02:15 +0000 http://awr.cymru/?p=151 Cofnod difyr gan Swyddle:

Nid yw’r cwestiwn “a ddylid gadael i’r iaith Gymraeg farw?” yn un y byddwch yn disgwyl ei glywed yn wythnos yr Eisteddfod

Ffynhonnell: Ffwtbol Gwleidyddol? | Swyddle

]]>
https://awr.cymru/ffwtbol-gwleidyddol-swyddle/feed/ 0 151
Hyder a bolycs https://awr.cymru/hyder-a-chroeso/ Fri, 05 Aug 2016 11:16:57 +0000 http://awr.cymru/?p=62
Lolz, yntife?

Ond, fel mae’n digwydd, mae’r ddelwedd hon yn hynod arwyddocaol i bwrpas Awr Cymru…

Bolycs Cymraeg yw un o’n prif allbynnau cwmniol ar hyn o bryd. A gyda dros 7,366 yn ein dilyn ar Twitter, 16,182 o bobl yn ein hoffi ar Facebook, a 4,123 ar Instagram mae’n waith mae pobl yn amlwg ei mwynhau.

Mae pwrpas Bolycs Cymraeg yn un syml. Cyfrif uniaith Gymraeg sy’n cymryd pynciau Cymreig a rhoi spin digrif ac weithiau absẃrd trwy luniau a thestun. Oedd fyrder o gynnwys doniol Gymraeg yn bodoli yn y byd digidol oedd ar gael i bobl rannu a thrafod. Er bod yna lot o Gymry ar Facebook, Twitter ac Instagram mae yna ganran sylweddol sydd ddim a’r hyder eto i greu negeseuon personol yn y Gymraeg ond maent yn fodlon rhannu. Mae Bolycs yn magu hyder a gobeithio’n cynyddu amlygrwydd y Gymraeg ar rwydweithiau cymdeithasol a dangos i’r Gymraeg a di Gymraeg bod cynnwys digidol yn iaith y nefoedd yn cael ei rannu’n helaeth.

Serch hyn, mae’n syndod sawl person sy’n meddwl ei fod yn HANFODOL PWYSIG i sicrhau ein bod ni gyd yn gwybod mae CH yn lle C dylen ni wedi defnyddio wrth linio sylw sili i gyd-fynd gyda delwedd ddwl. Yn aml, bydd y rhain yn dadlau ei fod yn helpu’r iaith wrth neud…

Ein cred ni yw bod y plismon iaith ‘ma mond yn niweidio’r iaith trwy chwalu ymdrechion ehangach i fagu hyder ym mhob un sy’n berchen ar allu Cymraeg ond yn diodde’ o ddiffyg hyder.

Mae croeso i bawb cymryd rhan yn y bolycs o gwmpas bolycs Cymraeg – so ni’n barnu, a s’dim hawl gan neb arall i neud chwaith. Wedi datblygu polisi sylwadau i’r cyfrif, rydym yn gobeithio ein bod yn dangos esiampl bositif o’r ffordd i weithredu yn ddigidol er mwyn gwir helpu’r achos ieithyddol.

Llun: http://some.ly/ap6jf0

 

]]>
62