Rhwydwaith Gemau ac Addysg Geltaidd
Mae heddiw yn gweld lansiad menter gydweithredol newydd, rhwng Cymru, yr Alban a gogledd Iwerddon, fydd yn amlygu’r potensial i gydweithio yn feysydd addysg ddigidol a gemau cyfrifiadurol.
Mae’r lansiad yn digwydd yng Nghaeredin lle mae Gŵyl Adloniant Digidol Caeredin yn cael ei gynnal am y tro cyntaf.
Mae cydweithio ar draws y sectorau hyn yn cynnig cyfleoedd masnachol newydd i gwmnïau digidol yng Nghymru yn ogystal â chaniatáu datblygiad partneriaethau newydd ar draws y gwledydd Celtaidd. Bydd y datblygiad cyffrous yma yn cynnig cyfle unigryw I Gymru datblygu fel canolfan i ryngwladoli cynnwys digidol gan ddefnyddio datblygu cynnyrch yn y Gymraeg a’r Saesneg fel rhan o’r broses greiddiol o ddatblygu.
Mae’r cwricwlwm newydd yng Nghymru, fydd yn ymgorffori llythrennedd digidol, yn amlygu awydd Cymru fel gwlad i chwarae rhan lawn yn yr economi digidol rhyngwladol sy’n datblygu.
Mae’r lansiad yn cyd-fynd a’r newyddion ddoe fod y diwydiant digidol yng Nghymru wedi tyfu 9% yn y flwyddyn ddiwethaf, ail yn unig i Lundain o ran tyfiant.
Gallwch wylio’r ffrwd fyw o sesiwn “Joining the Digital Dots” yma am 3yh.
Gallwch weld ffrwd y diwrnod cyntaf yma.