Daeth sylw yn ddiweddar i’r defnydd o’r Gymraeg wrth farchnata pan gafwyd ymateb negyddol i neges yn y Gymraeg gan gwmni creision Jones o Gymru, cwmni sy’n marchnata, yn llwyddiannus iawn, mewn dwy iaith, Cymraeg a Saesneg. Rhaid cofio taw un unigolyn efo 350 o ddilynwyr ac sydd yn ôl dolen ar ei biog Twitter wedi methu ei hun i farchnata a threfnu twrnamaint golff nath adael y sylw. Ei ddadl yn syml oedd pam farchnata mewn iaith lle mae nifer cymharol fach yn ei ddeall, Cymraeg, yn erbyn iaith lle mae’r mwyafrif yn ei ddeall, Saesneg. Diddorol a chalonogol oedd yr ymateb gyda nifer sylweddol yn rhannu enghreifftiau o gwmnïau mawr sydd wedi defnyddio’r Gymraeg yn ddiweddar, mawr ddiolch unwaith eto i Gareth Bale a’r criw. Ac mae’n siŵr fod y sylw wedi bod yn bositif i gwmni Jones o Gymru, yn cynyddu proffil y cwmni fel un sy’n defnyddio ac yn cefnogi’r Gymraeg.
Felly oes yna enghreifftia o gwmnïau yn defnyddio ieithoedd brodorol i farchnata yn rhyngwladol? Wel mae yna un enghraifft gofiadwy, anodd credu taw 34 o flynyddoedd yn ôl ymddangosodd y slogan “Vorsprung durch Technik” gan gwmni Audi, ei ystyr yn fras yw “arloesedd trwy dechnoleg”. Ond be oedd y neges yn cyfleu oedd dilysrwydd Almaen fel gwlad sy’n rhagori ym maes peirianneg.
Enghraifft diweddarach yw cwmni dwr San Pellegrino, a newidiodd y geirio Tuscany, Italy ar eu dŵr llonydd “Acqua Panna” i Toscana, Italia. Eto ychwanegu at y dilysrwydd, yr “authenticity”, mae’n newid bach sy’n gwreiddio’r cynnyrch yn y wlad sy’n ei gynhyrchu. Ond gafodd y newid effaith ar werthiant? Wel ers y newid mae gwerthiant i fyny 14%.
Gall ychwanegu’r Gymraeg i’ch cynnyrch ac ymgyrchoedd marchnata talu….