Deprecated: Optional parameter $field declared before required parameter $post is implicitly treated as a required parameter in /home/awrcymru/public_html/wp-content/plugins/pc-google-analytics/includes/lib/class-pc-google-analytics-admin-api.php on line 281

Deprecated: Return type of HM\BackUpWordPress\CleanUpIterator::accept() should either be compatible with FilterIterator::accept(): bool, or the #[\ReturnTypeWillChange] attribute should be used to temporarily suppress the notice in /home/awrcymru/public_html/wp-content/plugins/backupwordpress/classes/class-path.php on line 456
Pwy Yw’r Gynulleidfa Cymraeg? – Awr Cymru

Mae’r ffigyrau sy’n cael eu trafod wrth ystyried marchnata yn y Gymraeg yn amrywio o garfana i garfan ag o blatfform i blatfform. Yn ôl cyfrifiad 2011 mae 562,000 o siaradwyr Cymraeg, mae 70% o rain dros 16, felly’n oedolion, ond os edrychir ar faint dros 20, sef y mwyafrif o’r oedran mewn gwaith mae’r canran oddeutu 62%.

Ond a’i dim ond marchnata i’r Cymry Cymraeg yw diben defnyddio’r Gymraeg wrth farchnata? Yn ôl i’r ystadegau…. Mae 60% o blant sy’n derbyn addysg Gymraeg yn dod o gartrefi di Gymraeg, gyda 20% o gartrefi gydag un rhiant Cymraeg a dim ond 20% o gartrefi lle’r Gymraeg yw iaith yr aelwyd.

Felly fel dwi’n ei gweld hi mae yna tair haen o gymdeithas y gallwn dargedu trwy farchnata’n ddigidol yn y Gymraeg.

Haen 1 – Y Cymry Cymraeg sy’n gwirioni wrth weld fan wen yn gyrru lawr stryd gyda’r gair “adeiladwr” ar yr ochr ac sy’n penderfynu taw fo neu hi fydd yn adeiladu’r estyniad newydd ar y tŷ.

Haen 2 – Y Cymry di-gymraeg sydd neu wedi rhoi eu plant trwy addysg Gymraeg ac sy’n gweld gwerth yr iaith, yn economaidd ag yn ddiwylliannol.

Haen 3 – Y Cymry di-gymraeg sy’n falch o’r ffaith, er nad ydynt yn siarad yr iaith na wedi danfon eu plant i Ysgol Gymraeg, bod gan Gymru iaith unigryw sy’n ein cyfoethogi fel gwlad a chenedl.
Felly os wnewch chi ychwanegu’r tair carfan at ei gilydd dwi’n amcangyfrif bod o gwmpas 2,000,000 o bobol y bydd marchnata drwy gyfrwng y Gymraeg yn taro deuddeg a nhw.
Mae cwmni rhyngwladol enfawr fel Adidas wedi gweld gwerth hyn yn ogystal â Budweiser, felly be amdani gwmnïau a sefydliadau Cymru? Da chi am fanteisio ar y cyfleoedd newydd sy’n bodoli?