Deprecated: Return type of HM\BackUpWordPress\CleanUpIterator::accept() should either be compatible with FilterIterator::accept(): bool, or the #[\ReturnTypeWillChange] attribute should be used to temporarily suppress the notice in /home/awrcymru/public_html/wp-content/plugins/backupwordpress/classes/class-path.php on line 456
Gwydr Menyn Traeth – Awr Cymru

Rhwng y 19eg a’r 21ain o Awst fe gynhalwyd wyl Glass Butter Beach, gwyl sy’n cyfuno sawl elfen o’r ddiwylliant “syrffio”, yn cyfuno cerddoriaeth, ffasiwn a gweithgareddau ar y mor. Daeth yr wyl i’r amlwg yn y newyddion am dau reswm, yn gyntaf y tywydd! Yn anffodus roedd y tywydd mor ofnadwy ar y dydd Sadwrn bu rhaid ohirio’r mwyafrif o’r gweithgareddau am resymau iechyd a diogelwch. Ond cyn i’r wyl digwydd death yr Wyl dan y lach am eu defnydd o’r Gymraeg yn eu ymdrechion marchnata, wel eu diffyg ohonno i fod yn gwbwl glir.

Yn yr erthygl hon yn y Daily Post ar yr 17eg o Awst http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/gwynedds-glass-butter-beach-festival-11760764 fe tynnwyd sylw at yr amharch roedd ymdrechion marchnata’r trefnwyr yn dangos tua’r Gymraeg, sy’n pwynt digon teg, ond os edrychwch ar yr erthygl a’r sylwadau odditano fe gollwyd i rannau helaeth y ddadl economaidd dros defnyddio’r Gymraeg yn ymdrechion marchnata yr wyl.

Os edrychwn ar yr ystadegau, yn ol sensws 2011 roedd 43,000 o drigolion Gwynedd rhwng 16 a 44, gyda’r mwyafrif dan 30. Dyma cwsmeriaid potensial yr wyl ar eu stepan drws, o ystyried fod dros 73% o drigolion Gwynedd yn deall Cymraeg (a nifer sylweddol o rhain yn ifanc diolch i addysg Gymraeg yn y sir) mae’n neud synnwyr masnachol i gynnwys y Gymraeg yn eu hymdrechion marchnata lleol.

Mae angen cefnogi ac addysgu cwmniau sydd wedi eu lleoli tu allan i Gymru am y manteision economaidd o ddefnyddio’r Gymraeg, buasai defnydd mwy amlwg o’r Gymraeg yn lleol wedi cynyddu gwerthianau nid eu lleihau.

Yn o brif ddibenau sefydlu Awr Cymru oedd i gynnig y gymorth hyn i gwmniau ond hefyd i amlygu fod Cymry Cymraeg a’r rhai sy’n gefnogol o’r iaith yn endid economaidd sydd werth eu targedu.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *