Ydych chi’n rhannu diweddariadau Facebook amlieithog?
Yn aml iawn mae tudalennau Facebook amlieithog yn gallu cynnwys diweddariadau mewn mwy na un iaith. Mi all hyn wneud y diweddariad yn hir i ddarllen ac weithiau’n edrych yn flêr.
Mae hi’n bosib rhannu diweddariadau Facebook mewn mwy na un iaith gyda dim ond un o’r ieithoedd yn ymddangos ar wal y darllenwr. Trwy fynd mewn i osodiadau’r tudalen a mynd lawr i waelod y tudalen, mi welwch Post in Multiple Languages. Trowch hwn ymlaen.
Nawr, pan fyddwch yn rhannu diweddariad mi allwch ddewis yr opsiwn ddiofyn ac unrhyw ieithoedd arall. Mi fydd y darllenwr yn gweld y diweddariad yn yr iaith maen nhw wedi gosod Facebook i fod neu’r opsiwn ddiofyn os rydych ddim wedi rhannu yn eu hiaith nhw.
Yr unig broblem gyda’r opsiwn amlieithog ydi pan fyddwch yn rhannu’r diweddariad ymlaen ar dudalen arall. Beth fydd yn digwydd ydi mi fydd y diweddariad Saesneg yn cael ei ddangos pob tro oherwydd does yna ddim gosodiadau iaith ar dudalennau Facebook.
Dilynwch fy nhudalen ar Facebook https://www.facebook.com/DewiEirig/
Os oes gennych unrhyw sylw, rhannwch ef isod.