Deprecated: Optional parameter $field declared before required parameter $post is implicitly treated as a required parameter in /home/awrcymru/public_html/wp-content/plugins/pc-google-analytics/includes/lib/class-pc-google-analytics-admin-api.php on line 281

Deprecated: Return type of HM\BackUpWordPress\CleanUpIterator::accept() should either be compatible with FilterIterator::accept(): bool, or the #[\ReturnTypeWillChange] attribute should be used to temporarily suppress the notice in /home/awrcymru/public_html/wp-content/plugins/backupwordpress/classes/class-path.php on line 456
Datganiad y WASG – Lansiad Awr Cymru – Awr Cymru

Datganiad y WASG – Lansiad Awr Cymru

11am DYDD MAWRTH 02/08/16

Daeth yr Awr, Daeth y Cwmni

Lansio busnes newydd i ddangos gwerth masnachol yr iaith Gymraeg   

awr cymrulogo
Mae cwmni newydd yn cael ei lansio’n swyddogol heddiw am 11am dydd Mawrth yr 2il o Awst i adeiladu ar lwyddiant Yr Awr Gymraeg gwasanaeth digidol sy’n hybu busnesau i weithio trwy’r iaith Gymraeg.
Mae’r Awr Gymraeg eisoes wedi profi’n llwyddiant enfawr, gan gynnig cefnogaeth amserol i fusnesau sy’n awyddus i hybu eu busnesau trwy ddefnyddio’r iaith.

Nawr mae sylfaenydd y gwasanaeth, Huw Marshall, yn lansio cwmni o’r enw Awr Cymru i ganolbwyntio ar gynorthwyo busnesau i elwa ar ddefnyddio’r iaith wrth werthu eu gwasanaethau a’u cynnyrch trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd Huw, fu’n gweithio fel Bennaeth Digidol i S4C tan yn ddiweddar, yn lansio Awr Cymru yr wythnos hon ar faes Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni.

Ers ei sefydlu ym mis Tachwedd 2012 mae poblogrwydd Yr Awr Gymraeg wedi cynyddu ac erbyn heddiw mae dros 6,000 yn ei dilyn ar Twitter a’r hashnod #yagym yn cyrraedd dros 700,000 o gyfrifon a 3,000,000 o linellau amser Twitter wrth aildrydariadau’r cyfrif @yrawrgymraeg trwy’r gweddarlledu rhwng 8yh a 9yh bob nos Fercher.

Mae’r Awr Gymraeg wedi dangos bod galw ac awydd mawr ymysg cwmnïau i ddefnyddio’r Gymraeg i gynyddu ei busnes. “Rydym yn lansio’r gwasanaeth a gwefan y cwmni Awr Cymru yn wyneb y galw cynyddol am ddefnyddio’r Gymraeg i helpu i dyfu busnes. Wrth lansio’r wythnos hon, fe fyddwn yn amlygu cwmnïau sydd wedi elwa o hyrwyddo yn y Gymraeg a thrwy ddefnyddio’r Awr Gymraeg,” meddai Huw.

Mae gan Huw brofiad helaeth yn y maes cyfryngau cymdeithasol, gwasanaethau digidol a darlledu yn y Gymraeg a Saesneg, a thrwy siarad gyda chwmnïau ac unigolion ledled Cymru, mae wedi adnabod cyfleoedd busnes sydd ar gael trwy ddefnyddio’r iaith. “Mae Yr Awr Gymraeg wedi cael ymateb cadarnhaol iawn dros y pedair blynedd diwethaf, ond dim ond hyn a hyn y gellir ei gyflawni mewn oriau tu allan i’r gwaith.” meddai Huw. “Felly trwy sefydlu rhiant gwmni newydd, Awr Cymru, bydd Yr Awr Gymraeg yn medru datblygu i gynnig gwasanaeth hyrwyddo llawn amser ond hefyd yn ein galluogi i roi cyngor a darparu hyfforddiant ym maes cyfryngau cymdeithasol. Gallwn hefyd  gydlynu cyfarfodydd rhwydweithio lle gall unigolion rannu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd.”

Bydd Awr Cymru hefyd yn ymgymryd â gwaith ymchwil i archwilio gwerth y Bunt Gymraeg. “Diwedd y gan yw’r geiniog ag os gallwn amlygu’r gwerth ariannol o farchnata, hyrwyddo a hysbysebu yn y Gymraeg byddwn yn gweld cynnydd sylweddol yn y defnydd o’r Gymraeg yn y byd digidol. Mae cwmnïau mawr rhyngwladol fel Adidas a Budweiser wedi gweld gwerth neud hyn yn ystod pencampwriaeth yr Ewro yn Ffrainc, yn wir ddaru Budweiser gydweithio efo’r Awr Gymraeg ar eu hymgyrch.”

Huw Marshall

07731 712123

huw@awr.cymru

www.awr.cymru

@awrcymru