Mae cwmni newydd yn cael ei lansio’n swyddogol heddiw am 11am dydd Mawrth yr 2il o Awst i adeiladu ar lwyddiant Yr Awr Gymraeg gwasanaeth digidol sy’n hybu busnesau i weithio trwy’r iaith Gymraeg.
Mae’r Awr Gymraeg eisoes wedi profi’n llwyddiant enfawr, gan gynnig cefnogaeth amserol i fusnesau sy’n awyddus i hybu eu busnesau trwy ddefnyddio’r iaith.
Nawr mae sylfaenydd y gwasanaeth, Huw Marshall, yn lansio cwmni o’r enw Awr Cymru i ganolbwyntio ar gynorthwyo busnesau i elwa ar ddefnyddio’r iaith wrth werthu eu gwasanaethau a’u cynnyrch trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd Huw, fu’n gweithio fel Bennaeth Digidol i S4C tan yn ddiweddar, yn lansio Awr Cymru yr wythnos hon ar faes Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni.
Ers ei sefydlu ym mis Tachwedd 2012 mae poblogrwydd Yr Awr Gymraeg wedi cynyddu ac erbyn heddiw mae dros 6,000 yn ei dilyn ar Twitter a’r hashnod #yagym yn cyrraedd dros 700,000 o gyfrifon a 3,000,000 o linellau amser Twitter wrth aildrydariadau’r cyfrif @yrawrgymraeg trwy’r gweddarlledu rhwng 8yh a 9yh bob nos Fercher.
Mae’r Awr Gymraeg wedi dangos bod galw ac awydd mawr ymysg cwmnïau i ddefnyddio’r Gymraeg i gynyddu ei busnes. “Rydym yn lansio’r gwasanaeth a gwefan y cwmni Awr Cymru yn wyneb y galw cynyddol am ddefnyddio’r Gymraeg i helpu i dyfu busnes. Wrth lansio’r wythnos hon, fe fyddwn yn amlygu cwmnïau sydd wedi elwa o hyrwyddo yn y Gymraeg a thrwy ddefnyddio’r Awr Gymraeg,” meddai Huw.
Mae gan Huw brofiad helaeth yn y maes cyfryngau cymdeithasol, gwasanaethau digidol a darlledu yn y Gymraeg a Saesneg, a thrwy siarad gyda chwmnïau ac unigolion ledled Cymru, mae wedi adnabod cyfleoedd busnes sydd ar gael trwy ddefnyddio’r iaith. “Mae Yr Awr Gymraeg wedi cael ymateb cadarnhaol iawn dros y pedair blynedd diwethaf, ond dim ond hyn a hyn y gellir ei gyflawni mewn oriau tu allan i’r gwaith.” meddai Huw. “Felly trwy sefydlu rhiant gwmni newydd, Awr Cymru, bydd Yr Awr Gymraeg yn medru datblygu i gynnig gwasanaeth hyrwyddo llawn amser ond hefyd yn ein galluogi i roi cyngor a darparu hyfforddiant ym maes cyfryngau cymdeithasol. Gallwn hefyd gydlynu cyfarfodydd rhwydweithio lle gall unigolion rannu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd.”
Bydd Awr Cymru hefyd yn ymgymryd â gwaith ymchwil i archwilio gwerth y Bunt Gymraeg. “Diwedd y gan yw’r geiniog ag os gallwn amlygu’r gwerth ariannol o farchnata, hyrwyddo a hysbysebu yn y Gymraeg byddwn yn gweld cynnydd sylweddol yn y defnydd o’r Gymraeg yn y byd digidol. Mae cwmnïau mawr rhyngwladol fel Adidas a Budweiser wedi gweld gwerth neud hyn yn ystod pencampwriaeth yr Ewro yn Ffrainc, yn wir ddaru Budweiser gydweithio efo’r Awr Gymraeg ar eu hymgyrch.”
]]>Huw Marshall
07731 712123
Ond a’i dim ond marchnata i’r Cymry Cymraeg yw diben defnyddio’r Gymraeg wrth farchnata? Yn ôl i’r ystadegau…. Mae 60% o blant sy’n derbyn addysg Gymraeg yn dod o gartrefi di Gymraeg, gyda 20% o gartrefi gydag un rhiant Cymraeg a dim ond 20% o gartrefi lle’r Gymraeg yw iaith yr aelwyd.
Felly fel dwi’n ei gweld hi mae yna tair haen o gymdeithas y gallwn dargedu trwy farchnata’n ddigidol yn y Gymraeg.
Haen 1 – Y Cymry Cymraeg sy’n gwirioni wrth weld fan wen yn gyrru lawr stryd gyda’r gair “adeiladwr” ar yr ochr ac sy’n penderfynu taw fo neu hi fydd yn adeiladu’r estyniad newydd ar y tŷ.
Haen 2 – Y Cymry di-gymraeg sydd neu wedi rhoi eu plant trwy addysg Gymraeg ac sy’n gweld gwerth yr iaith, yn economaidd ag yn ddiwylliannol.
Haen 3 – Y Cymry di-gymraeg sy’n falch o’r ffaith, er nad ydynt yn siarad yr iaith na wedi danfon eu plant i Ysgol Gymraeg, bod gan Gymru iaith unigryw sy’n ein cyfoethogi fel gwlad a chenedl.
Felly os wnewch chi ychwanegu’r tair carfan at ei gilydd dwi’n amcangyfrif bod o gwmpas 2,000,000 o bobol y bydd marchnata drwy gyfrwng y Gymraeg yn taro deuddeg a nhw.
Mae cwmni rhyngwladol enfawr fel Adidas wedi gweld gwerth hyn yn ogystal â Budweiser, felly be amdani gwmnïau a sefydliadau Cymru? Da chi am fanteisio ar y cyfleoedd newydd sy’n bodoli?