Mae yna lu o syniadau a phrosiectau sydd angen cefnogaeth ariannol i sefydlu a datblygu, a fyddwch chi’n fodlon helpu gwireddu’r rhain a rhoi’r cyfle gorau posib iddynt lwyddo?
Trwy gytuno i gyfrannu awr o gyflog y mis (yr isafswm cyflog cenedlaethol yw £7-50) am 12 mis gallwch sicrhau’r sylfaen cadarn mae prosiectau angen i ddatblygu i bwynt lle gallent fod yn hunan cynhaliol a darganfod ffynonellau newydd o ariannu. Trwy dderbyn eich arian bydd y prosiect yn neud addewid i ddanfon e-bost misol i chi yn nodi beth mae eich cefnogaeth ariannol wedi galluogi.
Bydd y taliadau misol yn mynd yn uniongyrchol i’r prosiect ar ffurf debyd uniongyrchol trwy’r llwyfan gocardless (sy’n codi 20c ar gyfer pob taliad), bydd mod di chi ganslo ar unrhyw amser, ond mae’r addewid i gefnogi am 12 mis yn help aruthrol wrth alluogi mentrau a phrosiectau i gynllunio’n hir dymor.
]]>Gyda phrosiect, menter neu wasanaeth sydd angen cefnogaeth? Cysylltwch a helo@awr.cymru
Does dim dadlau bod yr Awr wedi bod yn llwyddiant, ond mae Huw Marshall a Dewi Eirig Jones, trefnwyr yr Awr a dau o gyfarwyddwyr Awr Cymru, yn awyddus i ddatblygu’r Awr a’i gymryd i’r lefel nesaf.
Mae’r Awr wedi lansio ymgyrch ariannu torfol i wireddu hyn, mae modd gyfrannu yma.
Mae Twitter yn gyfrwng gwych, ond mae ganddo ei gyfyngderau. Er ei fod dal yn boblogaidd mae natur y llwyfan yn golygu bod sicrhau bod cymuned Yr Awr Gymraeg yn derbyn negeseuon yn anodd. Wrth i ni siarad yn gyhoeddus mewn cynadleddau ar hyd a lled Cymru mae ymwybyddiaeth o’r Awr dal yn gymharol isel, sydd yn ei hun yn beth galonogol, mae’n golygu fod yna cynulleidfa enfawr allan yna yng Nghymru a thu hwnt ar gael i gyrraedd.
Lle mae’r gynulleidfa yma? Facebook a’r we…… Mae angen i ni felly ehangu ôl troed yr Awr i’r gofodau, newydd i’r Awr Gymraeg, dylanwadol hyn. Gwyddwn fod dros 200,000 o gyfrifon Facebook wedi ticio’r blwch iaith “Cymraeg” hoffwn gyrraedd y mwyafrif o rain gyda gwybodaeth am wasanaethau a chynnyrch gymuned yr Awr Gymraeg.
Mae Google dal yn ddylanwadol iawn wrth i bobol chwilio’r byd digidol, am wybodaeth, gwasanaethau, cynnyrch a digwyddiadau. Bydd yr arian yn ein galluogi i adeiladu gwefan fydd yn gartref i wybodaeth am gymuned yr Awr Gymraeg, yr unigolion, cwmnïau a sefydliadau sy’n defnyddio’r Awr, eu cynnyrch a gwasanaethau. Bydd map rhyngweithiol yn dangos lleoliadau ‘r busnesau a sefydliadau sy’n defnyddio’r Gymraeg. Bydd calendr digwyddiadau, gyda’r digwyddiadau yma yn ymddangos ar y map.
Bydd ofod i erthyglau, podlediadau a fideos byr am aelodau’r gymuned.
Hoffwn ddatblygu “marchnad” ar gyfer cynnyrch Cymraeg mewn partneriaeth a chwmnïau Cymraeg. Bydd modd i unigolion sydd ddim ar Twitter gweld negeseuon hyrwyddo sy’n defnyddio’r hashnod #yagym.
Gyda defnydd da o SEO (y broses o sicrhau fod gwybodaeth o fewn gwefannau yn ymddangos ar frig o unrhyw chwilio ar y we) gallwn sicrhau fod cwmnïau Cymraeg yn dod yn fwy amlwg ar y we.
Bydd rheoli’r Awr ar Twitter, rheoli cynnwys y gwefan rheoli’r SEO, creu cynnwys ar gyfer ein tudalen Facebook a thyfu ein cynulleidfa ar Facebook yn cymryd amser.
Bydd yr arian yn ein galluogi i dalu unigolyn i weithio 16 awr yr wythnos am 5 mis, yn cynorthwyo Huw a Dewi yn y gwaith maent yn ei gyflawni’n wirfoddol ar hyn o bryd.
Y nod ar ddiwedd y 5 mis yw bod yn hunan cynhaliol, i fod mewn sefyllfa lle mae modd i ni ennill incwm drwy hysbysebu a gweithgareddau masnachol. Os gall 300 o bobol gyfrannu £20 yr un, fe fyddwn yn cyrraedd ein nod ag yn medru sicrhau’r gefnogaeth gorau posib i’r Gymraeg yn y byd digidol.
Gyda’ch cefnogaeth gallwn gyflawni hyn.
Diolch
]]>Oes le felly am lais newydd ym myd newyddion Cymru, un sy’n targedu cynulleidfa iau sy’n cynnig mynediad i’r newyddion mewn modd hygyrch a gweledol?
Dros yr wythnosau diwethaf mae Awr Cymru wedi bod yn datblygu cynllun ar gyfer sefydlu gwasanaeth newydd o’i bath, gwasanaeth newydd, gyda model busnes newydd. Dros yr wythnosau nesaf fe fyddwn yn cynnal ymgynghoriad lle fyddwn yn rhannu ein gweledigaeth ac asesu potensial sefydlu gwasanaeth newydd o’i bath.
Mae’r ymateb hyd yma wedi bod yn galonogol iawn gyda nifer o gwmnïau digidol amlwg a rhai newydd yn cynnig eu cefnogaeth a thechnoleg i’r fenter. Edrychwn ymlaen at glywed eich ymateb…..
]]>Dilynwch @ynewyddion ar twitter i glywed y diweddaraf am y fenter.
Mae ’na awr sy’n mynnu erwau y we’n
wyrth o drydariadau,
lle i’n cân gael llenwi cae’n
hen go’ a hawlia gaeau.
Awr Gymraeg a’i muriau hi’n ehangu
rhag angau, a geni
wna’r awr hon ru â’i hynni
newydd yw’r welydd ’weli.
Â’r heniaith ar ei hunion, â’r alwad
ar hewl o orwelion
i lannau diffiniau y ffôn
yn seiat o negeseuon.
Awr ein hiaith yn rhannu o hyd, awr rhoi
ac awr yw i gymryd,
awr boeth yw awr orau’r byd,
awr o haf yw’r awr hefyd.
– Aneirin Karadog
Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar wefan Llenyddiaeth Cymru fel rhan o Her 100 Cerdd
]]>Gwahoddir pobyddion brwd o bedwar ban byd i gyflwyno eu fersiwn nhw o un o gacennau enwocaf o Gymru, fel rhan o Bencapwriaeth Bara Brith y Byd Creision Jones sydd i’w chynnal yn mis Tachwedd yn Llandudno.
Gyda gwobr ariannol o £100 ar gael i’r enillydd ynghyd â chyflenwad blwyddyn o greision Cymreig Jones, caiff y Pencampwriaeth ei gynnal mewn partneriaeth gyda Ffair Nadolig Llandudno.
“Mae cyd-weithio gyda’r Ffair yn gwneud synnwyr,” meddai Geraint Hughes, cyd-berchennog Creision Jones. “Mae’n un o farchnadoedd bwyd Nadolig amlycaf Cymru, a bydd modd i bobyddion ddod â’u Bara Brith ar y dydd Iau, Tachwedd 17eg, a chael cyfle i fwynhau atyniadau’r Ffair yr un pryd. Bydd ein panel o feirniaid uchel eu parch yn penderfynu ar y Bara Brith Gorau yn y Byd ar y dydd Gwener canlynol.”
Gall ymgeiswyr hefyd ddanfon eu Bara Brith i’r Pencampwriaeth drwy ddanfon i un o nifer o fannau codi fydd ar gael ar draws Cymru, neu drwy’r post, gan y disgwylir ddiddordeb o bell ac agos.
“Rydym yn disgwyl ceisiadau yn lythrennol o bob cwr o’r Byd, gyda pobyddion o Siapan eisioes wedi mynegi diddordeb mewn cystadlu,” nododd Geraint Hughes. “Dydi hyn ddim yn syndod mewn gwirionedd pan rydach chi’n meddwl pa mor boblogaidd yw Bara Brith, mae’n un o drysorau bwyd Cymru.”
Yn ymrafael â’r dasg beirniadu fydd Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr, Sally Owens, darlithydd yng Ngholeg Llandrillo ac sydd wedi cipio sawl gwobr cydnabyddiedig am bobi cacennau, a Rhian Mostyn Jones, sydd gydai’i gwr Gareth Wyn Jones yn rhedeg fferm ddefaid mynydd deuleuol Ty’n Llwyfan yn Llanfairfechan.
“Rydym wedi penderfynu cadw’r meini prawf mor eang â phosib er mwyn annog amrywiaeth,” esboniodd Tegwen Morris, “er gallai hynny wneud ein tasg yn anoddach. Byddwn yn gofyn i bawb sy’n ceisio gynnwys darn o bapur gyda rhestr o gynhwysion ei Bara Brith arno, gan y bydd yn helpu’r broses feirniadu.”
Yn ymuno â’r Merched y Wawr fel partner yn y Bencampwriaeth mae Go North Wales, Canolfan Bwyd Cymru Bodnant a Siambr Fasnach Llandudno.
“Pa ffordd well i godi proffil un o’n cynnyrch bwyd Cymreig mwyaf eiconig na thrwy gynnal Pencampwriaeth Bara Brith y Byd Cresion Jones,” meddai Jim Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Go North Wales, a baratôdd blog yn ddiweddar ar Bara Brith i dwristiaid o dramor. “Bydd y digwyddiad yn siwr o’n helpu ni i allu hyrwyddo ein cynnig ardderchog o fwyd a diod i ymwelwyr yn yr ardal.”
I gyd-fynd â’r Bencampwriaeth, bydd Siambr Fasnach Llandudno yn cydlynu “Llwybr Cacennau” o gwmpas detholiad o fusnesau manwerthu yn y dref, a bydd Canolfan Fwyd Cymru Bodnant yn pobi’r Bara Brith buddugol i’w werthu at y Nadolig.
“Nid yn unig bydd yr enillydd yn cipio’r teitl anrhydeddus o Bencampwr Pobi Bara Brith y Byd, sydd gyda llaw yn llawer mwy o gamp na ennill y ‘Great British Bake Off’”, meddai Geraint Hughes, “bydd o neu hi yn cael y cyfle o weld ei bara birth nhw’n bersonol yn cael ei gynhyrchu gan grefftwyr pobi Bodnant i’w werthu i’r cyhoedd.”Bydd angen i bobyddion sydd am gystadlu gofrestru o flaen llaw erbyn hanner nos, nos Sadwrn Tachwedd 12fed, drwy e-bostio blas@madryn.co.uk neu ffonio 01758 701380. Cwmni Creision Jones fydd yn gweinyddu a chydlynu’r Pencampwriaeth, a gellir derbyn y newyddion diweddaraf ar ei gwefan www.madryn.co.uk neu o’i cyfrif trydar @JonesoGymru
Caiff yr enillydd ei gyflwyno ar ddydd Gwener, Tachwedd 18fed yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno.
Yn lansio Pencampwriaeth Bara Brith y Byd Creision Jones yng Nghanolfan Fwyd Cymru Bodnant mae, chwith i’r dde, Jim Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Go North Wales, Geraint Hughes, Cyd-berchennog Creision Jones, Simon Burrows, Rheolwr Datblygu Busnes yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant, Barry Mortlock, Swyddog Datblygu Ffair Nadolig Llandudno, Gary Worrell, Crefftwr Pobi yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant ac Eileen Burrows of Siambr Fasnach Llandudno.
]]>Nifer o gyfrifon cofrestredig yn yr UDA | ||||
Oedran | Gwryw | Benyw | Cyfanswm | |
13-16 | 1,100,000 | 1,200,000 | 2,300,000 | |
16-25 | 23,000,000 | 24,000,000 | 47,000,000 | |
26-35 | 24,000,000 | 24,000,000 | 48,000,000 | |
36-45 | 16,000,000 | 19,000,000 | 35,000,000 | |
46-55 | 13,000,000 | 17,000,000 | 30,000,000 | |
56-65+ | 14,000,000 | 22,000,000 | 36,000,000 | |
13-65+ | 91,100,000 | 107,200,000 | 198,300,000 | |
Nifer o gyfrifon yn yr UDA sydd wedi ticio'r blwch Cymraeg | ||||
Oedran | Gwryw | Benyw | Cyfanswm | |
13-16 | 20 | 20 | 40 | |
16-25 | 4,400 | 1,700 | 6,100 | |
26-35 | 1,600 | 730 | 2,330 | |
36-45 | 770 | 510 | 1,280 | |
46-55 | 560 | 180 | 740 | |
56-65+ | 650 | 450 | 1,100 | |
13-65+ | 8,000 | 3,590 | 11,590 |
Nifer o gyfrifon cofrestredig yn yr Ariannin | ||||
Oedran | Gwryw | Benyw | Cyfanswm | |
13-15 | 370,000 | 420,000 | 790,000 | |
16-25 | 5,000,000 | 5,000,000 | 10,000,000 | |
26-35 | 3,800,000 | 3,800,000 | 7,600,000 | |
36-45 | 2,400,000 | 2,600,000 | 5,000,000 | |
46-55 | 1,300,000 | 1,500,000 | 2,800,000 | |
56-65+ | 1,000,000 | 1,500,000 | 2,500,000 | |
13-65+ | 13,870,000 | 14,820,000 | 28,690,000 | |
Nifer o gyfrifon yn yr Ariannin sydd wedi ticio'r blwch Cymraeg | ||||
Oedran | Gwryw | Benyw | Cyfanswm | |
13-15 | 20 | 20 | 40 | |
16-25 | 1,100 | 450 | 1,550 | |
26-35 | 180 | 110 | 290 | |
36-45 | 90 | 50 | 140 | |
46-55 | 30 | 20 | 50 | |
56-65+ | 70 | 40 | 110 | |
13-65+ | 1,490 | 690 | 2,180 |
Nifer o gyfrifon Facebook yng Nghymru | ||||
Oedran | Gwryw | Benyw | Cyfanswm | |
13-15 | 32,000 | 41,000 | 73,000 | |
16-25 | 250,000 | 240,000 | 490,000 | |
26-35 | 210,000 | 220,000 | 430,000 | |
36-45 | 150,000 | 190,000 | 340,000 | |
46-55 | 130,000 | 170,000 | 300,000 | |
56-65+ | 140,000 | 190,000 | 330,000 | |
13-65+ | 912,000 | 1,051,000 | 1,963,000 | |
Nifer o gyfrifon yng Nghymru sydd wedi ticio'r blwch Cymraeg | ||||
Oedran | Gwryw | Benyw | Cyfanswm | |
13-15 | 1,100 | 2,100 | 3,200 | |
16-25 | 25,000 | 37,000 | 62,000 | |
26-35 | 13,000 | 18,000 | 31,000 | |
36-45 | 7,300 | 12,000 | 19,300 | |
46-55 | 4,700 | 8,400 | 13,100 | |
56-65+ | 4,600 | 6,700 | 11,300 | |
13-65+ | 55,700 | 82,100 | 137,800 |
Yn yr erthygl hon yn y Daily Post ar yr 17eg o Awst http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/gwynedds-glass-butter-beach-festival-11760764 fe tynnwyd sylw at yr amharch roedd ymdrechion marchnata’r trefnwyr yn dangos tua’r Gymraeg, sy’n pwynt digon teg, ond os edrychwch ar yr erthygl a’r sylwadau odditano fe gollwyd i rannau helaeth y ddadl economaidd dros defnyddio’r Gymraeg yn ymdrechion marchnata yr wyl.
Os edrychwn ar yr ystadegau, yn ol sensws 2011 roedd 43,000 o drigolion Gwynedd rhwng 16 a 44, gyda’r mwyafrif dan 30. Dyma cwsmeriaid potensial yr wyl ar eu stepan drws, o ystyried fod dros 73% o drigolion Gwynedd yn deall Cymraeg (a nifer sylweddol o rhain yn ifanc diolch i addysg Gymraeg yn y sir) mae’n neud synnwyr masnachol i gynnwys y Gymraeg yn eu hymdrechion marchnata lleol.
Mae angen cefnogi ac addysgu cwmniau sydd wedi eu lleoli tu allan i Gymru am y manteision economaidd o ddefnyddio’r Gymraeg, buasai defnydd mwy amlwg o’r Gymraeg yn lleol wedi cynyddu gwerthianau nid eu lleihau.
Yn o brif ddibenau sefydlu Awr Cymru oedd i gynnig y gymorth hyn i gwmniau ond hefyd i amlygu fod Cymry Cymraeg a’r rhai sy’n gefnogol o’r iaith yn endid economaidd sydd werth eu targedu.
]]>Mae’r lansiad yn digwydd yng Nghaeredin lle mae Gŵyl Adloniant Digidol Caeredin yn cael ei gynnal am y tro cyntaf.
Mae cydweithio ar draws y sectorau hyn yn cynnig cyfleoedd masnachol newydd i gwmnïau digidol yng Nghymru yn ogystal â chaniatáu datblygiad partneriaethau newydd ar draws y gwledydd Celtaidd. Bydd y datblygiad cyffrous yma yn cynnig cyfle unigryw I Gymru datblygu fel canolfan i ryngwladoli cynnwys digidol gan ddefnyddio datblygu cynnyrch yn y Gymraeg a’r Saesneg fel rhan o’r broses greiddiol o ddatblygu.
Mae’r cwricwlwm newydd yng Nghymru, fydd yn ymgorffori llythrennedd digidol, yn amlygu awydd Cymru fel gwlad i chwarae rhan lawn yn yr economi digidol rhyngwladol sy’n datblygu.
Mae’r lansiad yn cyd-fynd a’r newyddion ddoe fod y diwydiant digidol yng Nghymru wedi tyfu 9% yn y flwyddyn ddiwethaf, ail yn unig i Lundain o ran tyfiant.
Gallwch wylio’r ffrwd fyw o sesiwn “Joining the Digital Dots” yma am 3yh.
Gallwch weld ffrwd y diwrnod cyntaf yma.