Mae ’na awr sy’n mynnu erwau y we’n
wyrth o drydariadau,
lle i’n cân gael llenwi cae’n
hen go’ a hawlia gaeau.
Awr Gymraeg a’i muriau hi’n ehangu
rhag angau, a geni
wna’r awr hon ru â’i hynni
newydd yw’r welydd ’weli.
Â’r heniaith ar ei hunion, â’r alwad
ar hewl o orwelion
i lannau diffiniau y ffôn
yn seiat o negeseuon.
Awr ein hiaith yn rhannu o hyd, awr rhoi
ac awr yw i gymryd,
awr boeth yw awr orau’r byd,
awr o haf yw’r awr hefyd.
– Aneirin Karadog
Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar wefan Llenyddiaeth Cymru fel rhan o Her 100 Cerdd
]]>Gwahoddir pobyddion brwd o bedwar ban byd i gyflwyno eu fersiwn nhw o un o gacennau enwocaf o Gymru, fel rhan o Bencapwriaeth Bara Brith y Byd Creision Jones sydd i’w chynnal yn mis Tachwedd yn Llandudno.
Gyda gwobr ariannol o £100 ar gael i’r enillydd ynghyd â chyflenwad blwyddyn o greision Cymreig Jones, caiff y Pencampwriaeth ei gynnal mewn partneriaeth gyda Ffair Nadolig Llandudno.
“Mae cyd-weithio gyda’r Ffair yn gwneud synnwyr,” meddai Geraint Hughes, cyd-berchennog Creision Jones. “Mae’n un o farchnadoedd bwyd Nadolig amlycaf Cymru, a bydd modd i bobyddion ddod â’u Bara Brith ar y dydd Iau, Tachwedd 17eg, a chael cyfle i fwynhau atyniadau’r Ffair yr un pryd. Bydd ein panel o feirniaid uchel eu parch yn penderfynu ar y Bara Brith Gorau yn y Byd ar y dydd Gwener canlynol.”
Gall ymgeiswyr hefyd ddanfon eu Bara Brith i’r Pencampwriaeth drwy ddanfon i un o nifer o fannau codi fydd ar gael ar draws Cymru, neu drwy’r post, gan y disgwylir ddiddordeb o bell ac agos.
“Rydym yn disgwyl ceisiadau yn lythrennol o bob cwr o’r Byd, gyda pobyddion o Siapan eisioes wedi mynegi diddordeb mewn cystadlu,” nododd Geraint Hughes. “Dydi hyn ddim yn syndod mewn gwirionedd pan rydach chi’n meddwl pa mor boblogaidd yw Bara Brith, mae’n un o drysorau bwyd Cymru.”
Yn ymrafael â’r dasg beirniadu fydd Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr, Sally Owens, darlithydd yng Ngholeg Llandrillo ac sydd wedi cipio sawl gwobr cydnabyddiedig am bobi cacennau, a Rhian Mostyn Jones, sydd gydai’i gwr Gareth Wyn Jones yn rhedeg fferm ddefaid mynydd deuleuol Ty’n Llwyfan yn Llanfairfechan.
“Rydym wedi penderfynu cadw’r meini prawf mor eang â phosib er mwyn annog amrywiaeth,” esboniodd Tegwen Morris, “er gallai hynny wneud ein tasg yn anoddach. Byddwn yn gofyn i bawb sy’n ceisio gynnwys darn o bapur gyda rhestr o gynhwysion ei Bara Brith arno, gan y bydd yn helpu’r broses feirniadu.”
Yn ymuno â’r Merched y Wawr fel partner yn y Bencampwriaeth mae Go North Wales, Canolfan Bwyd Cymru Bodnant a Siambr Fasnach Llandudno.
“Pa ffordd well i godi proffil un o’n cynnyrch bwyd Cymreig mwyaf eiconig na thrwy gynnal Pencampwriaeth Bara Brith y Byd Cresion Jones,” meddai Jim Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Go North Wales, a baratôdd blog yn ddiweddar ar Bara Brith i dwristiaid o dramor. “Bydd y digwyddiad yn siwr o’n helpu ni i allu hyrwyddo ein cynnig ardderchog o fwyd a diod i ymwelwyr yn yr ardal.”
I gyd-fynd â’r Bencampwriaeth, bydd Siambr Fasnach Llandudno yn cydlynu “Llwybr Cacennau” o gwmpas detholiad o fusnesau manwerthu yn y dref, a bydd Canolfan Fwyd Cymru Bodnant yn pobi’r Bara Brith buddugol i’w werthu at y Nadolig.
“Nid yn unig bydd yr enillydd yn cipio’r teitl anrhydeddus o Bencampwr Pobi Bara Brith y Byd, sydd gyda llaw yn llawer mwy o gamp na ennill y ‘Great British Bake Off’”, meddai Geraint Hughes, “bydd o neu hi yn cael y cyfle o weld ei bara birth nhw’n bersonol yn cael ei gynhyrchu gan grefftwyr pobi Bodnant i’w werthu i’r cyhoedd.”Bydd angen i bobyddion sydd am gystadlu gofrestru o flaen llaw erbyn hanner nos, nos Sadwrn Tachwedd 12fed, drwy e-bostio blas@madryn.co.uk neu ffonio 01758 701380. Cwmni Creision Jones fydd yn gweinyddu a chydlynu’r Pencampwriaeth, a gellir derbyn y newyddion diweddaraf ar ei gwefan www.madryn.co.uk neu o’i cyfrif trydar @JonesoGymru
Caiff yr enillydd ei gyflwyno ar ddydd Gwener, Tachwedd 18fed yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno.

Yn lansio Pencampwriaeth Bara Brith y Byd Creision Jones yng Nghanolfan Fwyd Cymru Bodnant mae, chwith i’r dde, Jim Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Go North Wales, Geraint Hughes, Cyd-berchennog Creision Jones, Simon Burrows, Rheolwr Datblygu Busnes yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant, Barry Mortlock, Swyddog Datblygu Ffair Nadolig Llandudno, Gary Worrell, Crefftwr Pobi yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant ac Eileen Burrows of Siambr Fasnach Llandudno.
]]>| Nifer o gyfrifon cofrestredig yn yr UDA | ||||
| Oedran | Gwryw | Benyw | Cyfanswm | |
| 13-16 | 1,100,000 | 1,200,000 | 2,300,000 | |
| 16-25 | 23,000,000 | 24,000,000 | 47,000,000 | |
| 26-35 | 24,000,000 | 24,000,000 | 48,000,000 | |
| 36-45 | 16,000,000 | 19,000,000 | 35,000,000 | |
| 46-55 | 13,000,000 | 17,000,000 | 30,000,000 | |
| 56-65+ | 14,000,000 | 22,000,000 | 36,000,000 | |
| 13-65+ | 91,100,000 | 107,200,000 | 198,300,000 | |
| Nifer o gyfrifon yn yr UDA sydd wedi ticio'r blwch Cymraeg | ||||
| Oedran | Gwryw | Benyw | Cyfanswm | |
| 13-16 | 20 | 20 | 40 | |
| 16-25 | 4,400 | 1,700 | 6,100 | |
| 26-35 | 1,600 | 730 | 2,330 | |
| 36-45 | 770 | 510 | 1,280 | |
| 46-55 | 560 | 180 | 740 | |
| 56-65+ | 650 | 450 | 1,100 | |
| 13-65+ | 8,000 | 3,590 | 11,590 |
| Nifer o gyfrifon cofrestredig yn yr Ariannin | ||||
| Oedran | Gwryw | Benyw | Cyfanswm | |
| 13-15 | 370,000 | 420,000 | 790,000 | |
| 16-25 | 5,000,000 | 5,000,000 | 10,000,000 | |
| 26-35 | 3,800,000 | 3,800,000 | 7,600,000 | |
| 36-45 | 2,400,000 | 2,600,000 | 5,000,000 | |
| 46-55 | 1,300,000 | 1,500,000 | 2,800,000 | |
| 56-65+ | 1,000,000 | 1,500,000 | 2,500,000 | |
| 13-65+ | 13,870,000 | 14,820,000 | 28,690,000 | |
| Nifer o gyfrifon yn yr Ariannin sydd wedi ticio'r blwch Cymraeg | ||||
| Oedran | Gwryw | Benyw | Cyfanswm | |
| 13-15 | 20 | 20 | 40 | |
| 16-25 | 1,100 | 450 | 1,550 | |
| 26-35 | 180 | 110 | 290 | |
| 36-45 | 90 | 50 | 140 | |
| 46-55 | 30 | 20 | 50 | |
| 56-65+ | 70 | 40 | 110 | |
| 13-65+ | 1,490 | 690 | 2,180 |
| Nifer o gyfrifon Facebook yng Nghymru | ||||
| Oedran | Gwryw | Benyw | Cyfanswm | |
| 13-15 | 32,000 | 41,000 | 73,000 | |
| 16-25 | 250,000 | 240,000 | 490,000 | |
| 26-35 | 210,000 | 220,000 | 430,000 | |
| 36-45 | 150,000 | 190,000 | 340,000 | |
| 46-55 | 130,000 | 170,000 | 300,000 | |
| 56-65+ | 140,000 | 190,000 | 330,000 | |
| 13-65+ | 912,000 | 1,051,000 | 1,963,000 | |
| Nifer o gyfrifon yng Nghymru sydd wedi ticio'r blwch Cymraeg | ||||
| Oedran | Gwryw | Benyw | Cyfanswm | |
| 13-15 | 1,100 | 2,100 | 3,200 | |
| 16-25 | 25,000 | 37,000 | 62,000 | |
| 26-35 | 13,000 | 18,000 | 31,000 | |
| 36-45 | 7,300 | 12,000 | 19,300 | |
| 46-55 | 4,700 | 8,400 | 13,100 | |
| 56-65+ | 4,600 | 6,700 | 11,300 | |
| 13-65+ | 55,700 | 82,100 | 137,800 |
Mae’r lansiad yn digwydd yng Nghaeredin lle mae Gŵyl Adloniant Digidol Caeredin yn cael ei gynnal am y tro cyntaf.
Mae cydweithio ar draws y sectorau hyn yn cynnig cyfleoedd masnachol newydd i gwmnïau digidol yng Nghymru yn ogystal â chaniatáu datblygiad partneriaethau newydd ar draws y gwledydd Celtaidd. Bydd y datblygiad cyffrous yma yn cynnig cyfle unigryw I Gymru datblygu fel canolfan i ryngwladoli cynnwys digidol gan ddefnyddio datblygu cynnyrch yn y Gymraeg a’r Saesneg fel rhan o’r broses greiddiol o ddatblygu.
Mae’r cwricwlwm newydd yng Nghymru, fydd yn ymgorffori llythrennedd digidol, yn amlygu awydd Cymru fel gwlad i chwarae rhan lawn yn yr economi digidol rhyngwladol sy’n datblygu.
Mae’r lansiad yn cyd-fynd a’r newyddion ddoe fod y diwydiant digidol yng Nghymru wedi tyfu 9% yn y flwyddyn ddiwethaf, ail yn unig i Lundain o ran tyfiant.
Gallwch wylio’r ffrwd fyw o sesiwn “Joining the Digital Dots” yma am 3yh.
Gallwch weld ffrwd y diwrnod cyntaf yma.
Cofiwch fod Yr Awr Gymraeg (@yrawrgymraeg) ar Twitter pob nos Fercher rhwng 8 a 9. Awr o hyrwyddo i fusnesau, digwyddiadau a mudiadau Cymraeg.
Cofiwch ddefnyddio’r hashnod #yagym os am ymuno neu i ddilyn yr awr.
]]>Yn aml iawn mae tudalennau Facebook amlieithog yn gallu cynnwys diweddariadau mewn mwy na un iaith. Mi all hyn wneud y diweddariad yn hir i ddarllen ac weithiau’n edrych yn flêr.
Mae hi’n bosib rhannu diweddariadau Facebook mewn mwy na un iaith gyda dim ond un o’r ieithoedd yn ymddangos ar wal y darllenwr. Trwy fynd mewn i osodiadau’r tudalen a mynd lawr i waelod y tudalen, mi welwch Post in Multiple Languages. Trowch hwn ymlaen.

Nawr, pan fyddwch yn rhannu diweddariad mi allwch ddewis yr opsiwn ddiofyn ac unrhyw ieithoedd arall. Mi fydd y darllenwr yn gweld y diweddariad yn yr iaith maen nhw wedi gosod Facebook i fod neu’r opsiwn ddiofyn os rydych ddim wedi rhannu yn eu hiaith nhw.

Yr unig broblem gyda’r opsiwn amlieithog ydi pan fyddwch yn rhannu’r diweddariad ymlaen ar dudalen arall. Beth fydd yn digwydd ydi mi fydd y diweddariad Saesneg yn cael ei ddangos pob tro oherwydd does yna ddim gosodiadau iaith ar dudalennau Facebook.
Dilynwch fy nhudalen ar Facebook https://www.facebook.com/DewiEirig/
Os oes gennych unrhyw sylw, rhannwch ef isod.
]]>