Deprecated: Return type of HM\BackUpWordPress\CleanUpIterator::accept() should either be compatible with FilterIterator::accept(): bool, or the #[\ReturnTypeWillChange] attribute should be used to temporarily suppress the notice in /home/awrcymru/public_html/wp-content/plugins/backupwordpress/classes/class-path.php on line 456

Warning: Cannot modify header information - headers already sent by (output started at /home/awrcymru/public_html/wp-content/plugins/backupwordpress/classes/class-path.php:0) in /home/awrcymru/public_html/wp-includes/feed-rss2.php on line 8
Awr Cymru http://awr.cymru Poblogi’r Dirwedd Ddigidol Gymraeg Sat, 27 Jan 2018 17:23:34 +0000 en-GB hourly 1 https://wordpress.org/?v=6.4.4 https://i0.wp.com/awr.cymru/wp-content/uploads/2016/07/cropped-Slack-for-iOS-Upload-1.jpg?fit=32%2C32 Awr Cymru http://awr.cymru 32 32 114837018 Gallwch chi sbario awr o gyflog y mis i gefnogi menter Gymraeg? http://awr.cymru/gallwch-chi-sbario-awr-o-gyflog-y-mis-i-gefnogi-menter-gymraeg/ http://awr.cymru/gallwch-chi-sbario-awr-o-gyflog-y-mis-i-gefnogi-menter-gymraeg/?noamp=mobile#respond Sat, 27 Jan 2018 17:23:34 +0000 http://awr.cymru/?p=414

Mae yna lu o syniadau a phrosiectau sydd angen cefnogaeth ariannol i sefydlu a datblygu, a fyddwch chi’n fodlon helpu gwireddu’r rhain a rhoi’r cyfle gorau posib iddynt lwyddo?

Trwy gytuno i gyfrannu awr o gyflog y mis (yr isafswm cyflog cenedlaethol yw £7-50) am 12 mis gallwch sicrhau’r sylfaen cadarn mae prosiectau angen i ddatblygu i bwynt lle gallent fod yn hunan cynhaliol a darganfod ffynonellau newydd o ariannu. Trwy dderbyn eich arian bydd y prosiect yn neud addewid i ddanfon e-bost misol i chi yn nodi beth mae eich cefnogaeth ariannol wedi galluogi.

Bydd y taliadau misol yn mynd yn uniongyrchol i’r prosiect ar ffurf debyd uniongyrchol trwy’r llwyfan gocardless (sy’n codi 20c ar gyfer pob taliad), bydd mod di chi ganslo ar unrhyw amser, ond mae’r addewid i gefnogi am 12 mis yn help aruthrol wrth alluogi mentrau a phrosiectau i gynllunio’n hir dymor.

 

Gyda phrosiect, menter neu wasanaeth sydd angen cefnogaeth? Cysylltwch a helo@awr.cymru
]]>
http://awr.cymru/gallwch-chi-sbario-awr-o-gyflog-y-mis-i-gefnogi-menter-gymraeg/feed/ 0 414
Cyrraedd y Filiwn – Strategaeth yr Iaith Gymraeg http://awr.cymru/cyrraedd-y-filiwn-strategaeth-yr-iaith-gymraeg/ http://awr.cymru/cyrraedd-y-filiwn-strategaeth-yr-iaith-gymraeg/?noamp=mobile#respond Tue, 11 Jul 2017 20:38:42 +0000 http://awr.cymru/?p=396 Heddiw fe gyhoeddodd llywodraeth Cymru strategaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg, un fydd yn sicrhau, gobeithio, ein bod yn cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg  erbyn y flwyddyn 2050.

Yr ydym ni fel cynrychiolwyr o’r Awr Gymraeg yn croesawu’r strategaeth ac yn cefnogi ei amcanion a hoffwn awgrymu bod yma gyfle i fireinio un elfen mae’r strategaeth yn cyffwrdd arno sef yr achos economaidd. Sut gall y Gymraeg fod yn yrrwr economaidd mewn economi digidol rhyngwladol sy’n datblygu ar raddfa syfrdanol. Ddoe fe gyhoeddodd Huw Marshall sylfaenydd yr Awr erthygl Saesneg ar y llwyfan medium yn trafod y potensial economaidd unigryw gall dwyieithrwydd yn y Gymraeg a Saesneg gynnig i Gymru, gellir darllen yr erthygl yn llawn drwy glicio yma.

Da ni’n anghofio’n rhy aml fod yr iaith yn berthnasol i nifer sylweddol o bobol sy’n trigo yma yng Nghymru, dros glawdd Offa a dros y moroedd ym mhob cyfandir pell. Mae dros hanner miliwn o oedolion sy’n medru’r Gymraeg yn trigo ym Mhrydain, hanner miliwn o bobol sydd wedi ei uno drwy’r iaith Gymraeg, hanner miliwn y gellir ei thargedu fel grŵp economaidd. Rydym yn gyfarwydd â’r punnoedd pinc, llwyd a phorffor sy’n cyfeirio at rym pwrcasu gwahanol garfanau o gymdeithas, mae’n amser trafod y bunt Gymraeg.

Mae grym y bunt Gymraeg yn croesi ffiniau ieithyddol, faint o bobol di Gymraeg sydd yn ac wedi danfon eu plant trwy’r sustem addysg Gymraeg? Faint sydd â theuluoedd estynedig sy’n ymfalchïo yn y ffaith fod y Gymraeg, mewn sawl achos, yn dychwelyd i’r teulu? A be am yr 85% a nododd mewn arolwg gan y comisiynydd y Gymraeg fod yr iaith yn rhywbeth i drysori? Yn sydyn reit da ni’n sôn am ffigwr agosach at ddwy filiwn o bobol lle mae targedu trwy farchnata yn y Gymraeg yn mynd i ddylanwadu.

Mae angen amlygu i fusnesau bach a mawr, yma yng Nghymru a dros y ffin, o’r budd economaidd sy’n deillio o ddefnyddio’r Gymraeg. Gall defnyddio’r Gymraeg gwneud i’ch busnes sefyll allan yn erbyn eich cystadleuwyr, cynyddu eich gwerthiannau, cynyddu eich incwm ac elw.

Mae’r Awr Gymraeg, a sefydlwyd yn ôl yn Nhachwedd 2012, yn dal i dyfu, mae’r hashnod #yagym (Yr Awr GYMraeg) yn cyrraedd dros 6,000,000 o linellau amser a 1,000,000 o gyfrifon unigol potensial pob wythnos yn rheolaidd, mae’r dilyniant a’i chyrhaeddiad yn parhau i dyfu. Mae’r ffaith fod y Gymraeg o fewn negeseuon hyrwyddo a marchnata ar Twitter yn mynd mor bell yn helpu normaleiddio’r Gymraeg, yn codi ymwybyddiaeth o’i fodolaeth fel iaith byw a chyfoes.

Mae’r potensial i ddefnyddio dwyieithrwydd o fewn ein gwlad fel gyrrwr economaidd, fel allwedd sy’n datgloi drws i economi digidol rhyngwladol wedi ei amlygu yn yr erthygl a nodwyd uchod. Trwy gyfuno’r sgil unigryw o ddwyieithrwydd sy’n perthyn i gannoedd o filoedd yng Nghymru a manteision y bunt Gymraeg bydd y targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yn cael ei weld fel targed ceidwadol.

Diwedd y gan yw’r geiniog. Os am ddenu fwy o bobol at yr iaith pa ffordd well o annog unigolion i ddysgu a defnyddio’r iaith tu hwnt i waliau’r dosbarth a ffiniau’r ysgol na’r foronen o fantais economaidd hir dymor.

Bydd hyn yn arwain at ffyniant organig o’r iaith, yn hybu’r diwydiannau creadigol, twristiaeth a digidol.

Mae’r dyfodol yn ddisglair, mae’r dyfodol yn un Gymraeg.

Cofiwch ymuno a @yrawrgymraeg pob nos Fercher rhwng 8 a 9, ychwanegwch yr hashnod #yagym  i’ch neges hyrwyddo neu farchnata ac fe rannwn a dros 9,000 o ddilynwyr. Ewch draw i’n tudalen Facebook a hoffwch.

Diolch

]]>
http://awr.cymru/cyrraedd-y-filiwn-strategaeth-yr-iaith-gymraeg/feed/ 0 396
Cymryd Marchnata a Hyrwyddo yn y Gymraeg i’r Lefel Nesaf… http://awr.cymru/cymryd-marchnata-a-hyrwyddo-yn-y-gymraeg-ir-lefel-nesaf/ http://awr.cymru/cymryd-marchnata-a-hyrwyddo-yn-y-gymraeg-ir-lefel-nesaf/?noamp=mobile#respond Thu, 12 Jan 2017 23:27:12 +0000 http://awr.cymru/?p=356 Sefydlwyd yr Awr Gymraeg yn ôl yn 2012 fel awr Twitter i hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau busnesau a sefydliadau. O’r hedyn a blannwyd mae’r Awr wedi tyfu i’r pwynt lle ar ddechrau 2017 mae dros 8,000 o ddilynwyr gan y cyfrif. Yn ystod 2016 mi wnaeth yr hashnod #yagym gyrraedd 197,251,274 o linellau amser a 9,689,752 o gyfrifon Twitter.

Does dim dadlau bod yr Awr wedi bod yn llwyddiant, ond mae Huw Marshall a Dewi Eirig Jones, trefnwyr yr Awr a dau o gyfarwyddwyr Awr Cymru, yn awyddus i ddatblygu’r Awr a’i gymryd i’r lefel nesaf.

Mae’r Awr wedi lansio ymgyrch ariannu torfol i wireddu hyn, mae modd gyfrannu yma.

Sut mae cyflawni hyn felly, a sut bydd yr arian yn cael ei wario?

Mae Twitter yn gyfrwng gwych, ond mae ganddo ei gyfyngderau. Er ei fod dal yn boblogaidd mae natur y llwyfan yn golygu bod sicrhau bod cymuned Yr Awr Gymraeg yn derbyn negeseuon yn anodd. Wrth i ni siarad yn gyhoeddus mewn cynadleddau ar hyd a lled Cymru mae ymwybyddiaeth o’r Awr dal yn gymharol isel, sydd yn ei hun yn beth galonogol, mae’n golygu fod yna cynulleidfa enfawr allan yna yng Nghymru a thu hwnt ar gael i gyrraedd.

Lle mae’r gynulleidfa yma? Facebook a’r we…… Mae angen i ni felly ehangu ôl troed yr Awr i’r gofodau, newydd i’r Awr Gymraeg, dylanwadol hyn. Gwyddwn fod dros 200,000 o gyfrifon Facebook wedi ticio’r blwch iaith “Cymraeg” hoffwn gyrraedd y mwyafrif o rain gyda gwybodaeth am wasanaethau a chynnyrch gymuned yr Awr Gymraeg.

Mae Google dal yn ddylanwadol iawn wrth i bobol chwilio’r byd digidol, am wybodaeth, gwasanaethau, cynnyrch a digwyddiadau. Bydd yr arian yn ein galluogi i adeiladu gwefan fydd yn gartref i wybodaeth am gymuned yr Awr Gymraeg, yr unigolion, cwmnïau a sefydliadau sy’n defnyddio’r Awr, eu cynnyrch a gwasanaethau. Bydd map rhyngweithiol yn dangos lleoliadau ‘r busnesau a sefydliadau sy’n defnyddio’r Gymraeg. Bydd calendr digwyddiadau, gyda’r digwyddiadau yma yn ymddangos ar y map.

Bydd ofod i erthyglau, podlediadau a fideos byr am aelodau’r gymuned.

Hoffwn ddatblygu “marchnad” ar gyfer cynnyrch Cymraeg mewn partneriaeth a chwmnïau Cymraeg. Bydd modd i unigolion sydd ddim ar Twitter gweld negeseuon hyrwyddo sy’n defnyddio’r hashnod #yagym.

Gyda defnydd da o SEO (y broses o sicrhau fod gwybodaeth o fewn gwefannau yn ymddangos ar frig o unrhyw chwilio ar y we) gallwn sicrhau fod cwmnïau Cymraeg yn dod yn fwy amlwg ar y we.

Bydd rheoli’r Awr ar Twitter, rheoli cynnwys y gwefan rheoli’r SEO, creu cynnwys ar gyfer ein tudalen Facebook a thyfu ein cynulleidfa ar Facebook yn cymryd amser.

Bydd yr arian yn ein galluogi i dalu unigolyn i weithio 16 awr yr wythnos am 5 mis, yn cynorthwyo Huw a Dewi yn y gwaith maent yn ei gyflawni’n wirfoddol ar hyn o bryd.

Y nod ar ddiwedd y 5 mis yw bod yn hunan cynhaliol, i fod mewn sefyllfa lle mae modd i ni ennill incwm drwy hysbysebu a gweithgareddau masnachol. Os gall 300 o bobol gyfrannu £20 yr un, fe fyddwn yn cyrraedd ein nod ag yn medru sicrhau’r gefnogaeth gorau posib i’r Gymraeg yn y byd digidol.

Gyda’ch cefnogaeth gallwn gyflawni hyn.

Diolch

]]>
http://awr.cymru/cymryd-marchnata-a-hyrwyddo-yn-y-gymraeg-ir-lefel-nesaf/feed/ 0 356
Sut mae rhoi bach o sglein ar eich negeseuon Twitter a Facebook? http://awr.cymru/sut-mae-rhoi-bach-o-sglein-ar-eich-negeseuon-twitter-a-facebook/ http://awr.cymru/sut-mae-rhoi-bach-o-sglein-ar-eich-negeseuon-twitter-a-facebook/?noamp=mobile#respond Mon, 21 Nov 2016 19:23:47 +0000 http://awr.cymru/2016/11/21/sut-mae-rhoi-bach-o-sglein-ar-eich-negeseuon-twitter-a-facebook/ Mae lot o waith wedi ei wneud ac ystadegau wedi casglu ar sut gall delwedd neu fideo mewn neges ar cyfryngau cymdeithasol cynyddu’r lefel o rannu, a thrwy hynny ymestyn a chwyddo’ch cyrhaeddiad. Mae sawl platfform ag Ap ar gael i hwyluso’r broses o greu negeseuon a delweddau fydd yn mynu sylw.
Dyma rhai da ni’n eu defnyddio, arbrofwch a mwynhewch bod yn greadigiol…

Creu delweddau a testun : Canva

Creu montages o luniau : Pic Collage

Ychwanegu testun i lluniau : Phonto

Creu negeseuon wedi animeiddio : Ripl

Cysylltwch os da chi angen cymorth 

]]>
http://awr.cymru/sut-mae-rhoi-bach-o-sglein-ar-eich-negeseuon-twitter-a-facebook/feed/ 0 328
Mynd a’r Gymraeg i’r Byd http://awr.cymru/mynd-ar-gymraeg-ir-byd/ http://awr.cymru/mynd-ar-gymraeg-ir-byd/?noamp=mobile#respond Sun, 06 Nov 2016 22:12:59 +0000 http://awr.cymru/?p=314 audi-slogan-1307114013Daeth sylw yn ddiweddar i’r defnydd o’r Gymraeg wrth farchnata pan gafwyd ymateb negyddol i neges yn y Gymraeg gan gwmni creision Jones o Gymru, cwmni sy’n marchnata, yn llwyddiannus iawn, mewn dwy iaith, Cymraeg a Saesneg. Rhaid cofio taw un unigolyn efo 350 o ddilynwyr ac sydd yn ôl dolen ar ei biog Twitter wedi methu ei hun i farchnata a threfnu twrnamaint golff nath adael y sylw. Ei ddadl yn syml oedd pam farchnata mewn iaith lle mae nifer cymharol fach yn ei ddeall, Cymraeg, yn erbyn iaith lle mae’r mwyafrif yn ei ddeall, Saesneg. Diddorol a chalonogol oedd yr ymateb gyda nifer sylweddol yn rhannu enghreifftiau o gwmnïau mawr sydd wedi defnyddio’r Gymraeg yn ddiweddar, mawr ddiolch unwaith eto i Gareth Bale a’r criw. Ac mae’n siŵr fod y sylw wedi bod yn bositif i gwmni Jones o Gymru, yn cynyddu proffil y cwmni fel un sy’n defnyddio ac yn cefnogi’r Gymraeg.

Felly oes yna enghreifftia o gwmnïau yn defnyddio ieithoedd brodorol i farchnata yn rhyngwladol? Wel mae yna un enghraifft gofiadwy, anodd credu taw 34 o flynyddoedd yn ôl ymddangosodd y slogan “Vorsprung durch Technik” gan gwmni Audi, ei ystyr yn fras yw “arloesedd trwy dechnoleg”. Ond be oedd y neges yn cyfleu oedd dilysrwydd Almaen fel gwlad sy’n rhagori ym maes peirianneg.

Enghraifft diweddarach yw cwmni dwr San Pellegrino, a newidiodd y geirio Tuscany, Italy ar eu dŵr llonydd “Acqua Panna” i Toscana, Italia. Eto ychwanegu at y dilysrwydd, yr “authenticity”, mae’n newid bach sy’n gwreiddio’r cynnyrch yn y wlad sy’n ei gynhyrchu. Ond gafodd y newid effaith ar werthiant? Wel ers y newid mae gwerthiant i fyny 14%.

Gall ychwanegu’r Gymraeg i’ch cynnyrch ac ymgyrchoedd marchnata talu….

]]>
http://awr.cymru/mynd-ar-gymraeg-ir-byd/feed/ 0 314
Y Newyddion http://awr.cymru/y-newyddion/ http://awr.cymru/y-newyddion/?noamp=mobile#respond Mon, 17 Oct 2016 20:57:59 +0000 http://awr.cymru/?p=296 fullsizerenderMewn oes gynyddol ddigidol mae’r dewis o sut mae unigolyn yn derbyn ei newyddion yn newid o ddydd i ddydd, o awr i awr. Mae cyfryngau cymdeithasol wedi esblygu’n sianeli newyddion, faint ohonom, erbyn heddiw, sy’n derbyn y mwyafrif o’n newyddion trwy twitter? Neu drwy Ap newyddion fel un y BBC neu Apple News?
Mae’n ffaith fod cylchrediadau papurau print traddodiadol wedi bod yn gostwng flwyddyn ar flwyddyn ers blynyddoedd, ond mae marwolaeth araf a phoenus y wasg draddodiadol, mae’r nifer sy’n gweithio yn y maes hwn wedi gostwng yn sylweddol dros ddegawd, wedi gweld esblygiad trawiadol mewn llwyfannau newyddion digidol, nifer yn deillio o deitlau hanesyddol, ond hefyd nifer o wynebau newydd, enwau sydd erbyn hyn yn gyfarwydd, Vice a’r Canary i enwi ond dau. Ac rydym yr un mor gyfarwydd a derbyn newyddion gan ffynonellau rhyngwladol, yn enwedig rhai o dros yr Iwerydd yn yr UDA.
Ond tra bod y cynnydd mewn gwasanaethau newyddion Saesneg eu hiaith yn cynyddu a llenwi’n llinellau amser mae’r arlwy Gymraeg yn segur. Mae BBC Cymru Fyw wedi ennill ei le fel y prif wasanaeth newyddion digidol yn y Gymraeg ers ei lansiad yn 2012 gan gynnig gwasanaeth cynhwysfawr aml blatfform, mae yna wasanaethau eraill sy’n gweithredu yn yr un gofod a Cymru Fyw y mwyaf amlwg yw Golwg 360, gwasanaeth sy’n derbyn nawdd ariannol gan y llywodraeth trwy’r cyngor llyfrau ac mae’r Cymro gydag ôl troed ddigidol erbyn hyn.

Oes le felly am lais newydd ym myd newyddion Cymru, un sy’n targedu cynulleidfa iau sy’n cynnig mynediad i’r newyddion mewn modd hygyrch a gweledol?
Dros yr wythnosau diwethaf mae Awr Cymru wedi bod yn datblygu cynllun ar gyfer sefydlu gwasanaeth newydd o’i bath, gwasanaeth newydd, gyda model busnes newydd. Dros yr wythnosau nesaf fe fyddwn yn cynnal ymgynghoriad lle fyddwn yn rhannu ein gweledigaeth ac asesu potensial sefydlu gwasanaeth newydd o’i bath.
Mae’r ymateb hyd yma wedi bod yn galonogol iawn gyda nifer o gwmnïau digidol amlwg a rhai newydd yn cynnig eu cefnogaeth a thechnoleg i’r fenter. Edrychwn ymlaen at glywed eich ymateb…..

Dilynwch @ynewyddion ar twitter i glywed y diweddaraf am y fenter.

]]>
http://awr.cymru/y-newyddion/feed/ 0 296
Cerdd Yr Awr Gymraeg http://awr.cymru/cerdd-yr-awr-gymraeg/ http://awr.cymru/cerdd-yr-awr-gymraeg/?noamp=mobile#respond Fri, 07 Oct 2016 11:31:35 +0000 http://awr.cymru/?p=276 Yr Awr Gymraeg

 

Mae ’na awr sy’n mynnu erwau y we’n

wyrth o drydariadau,

lle i’n cân gael llenwi cae’n

hen go’ a hawlia gaeau.

 

Awr Gymraeg a’i muriau hi’n ehangu

rhag angau, a geni

wna’r awr hon ru â’i hynni

newydd yw’r welydd ’weli.

 

Â’r heniaith ar ei hunion, â’r alwad

ar hewl o orwelion

i lannau diffiniau y ffôn

yn seiat o negeseuon.

 

Awr ein hiaith yn rhannu o hyd, awr rhoi

ac awr yw i gymryd,

awr boeth yw awr orau’r byd,

awr o haf yw’r awr hefyd.

 

–  Aneirin Karadog

 

 

Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar wefan Llenyddiaeth Cymru fel rhan o Her 100 Cerdd

http://www.llenyddiaethcymru.org/lw-blog/100-cerdd-9/

]]>
http://awr.cymru/cerdd-yr-awr-gymraeg/feed/ 0 276
Pencampwriaeth Bara Brith y Byd http://awr.cymru/pencampwriaeth-bara-brith-y-byd/ http://awr.cymru/pencampwriaeth-bara-brith-y-byd/?noamp=mobile#respond Mon, 26 Sep 2016 11:20:49 +0000 http://awr.cymru/?p=260 Pencampwriaeth Bara Brith y Byd cyntaf yn cael ei lansio

Gwahoddir pobyddion brwd o bedwar ban byd i gyflwyno eu fersiwn nhw o un o gacennau enwocaf o Gymru, fel rhan o Bencapwriaeth Bara Brith y Byd Creision Jones sydd i’w chynnal yn mis Tachwedd yn Llandudno.

Gyda gwobr ariannol o £100 ar gael i’r enillydd ynghyd â chyflenwad blwyddyn o greision Cymreig Jones, caiff y Pencampwriaeth ei gynnal mewn partneriaeth gyda Ffair Nadolig Llandudno.

“Mae cyd-weithio gyda’r Ffair yn gwneud synnwyr,” meddai Geraint Hughes, cyd-berchennog Creision Jones. “Mae’n un o farchnadoedd bwyd Nadolig amlycaf Cymru, a bydd modd i bobyddion ddod â’u Bara Brith ar y dydd Iau, Tachwedd 17eg, a chael cyfle i fwynhau atyniadau’r Ffair yr un pryd. Bydd ein panel o feirniaid uchel eu parch yn penderfynu ar y Bara Brith Gorau yn y Byd ar y dydd Gwener canlynol.”

Gall ymgeiswyr hefyd ddanfon eu Bara Brith i’r Pencampwriaeth drwy ddanfon i un o nifer o fannau codi fydd ar gael ar draws Cymru, neu drwy’r post, gan y disgwylir ddiddordeb o bell ac agos.

“Rydym yn disgwyl ceisiadau yn lythrennol o bob cwr o’r Byd, gyda pobyddion o Siapan eisioes wedi mynegi diddordeb mewn cystadlu,” nododd Geraint Hughes. “Dydi hyn ddim yn syndod mewn gwirionedd pan rydach chi’n meddwl pa mor boblogaidd yw Bara Brith, mae’n un o drysorau bwyd Cymru.”

Yn ymrafael â’r dasg beirniadu fydd Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr, Sally Owens, darlithydd yng Ngholeg Llandrillo ac sydd wedi cipio sawl gwobr cydnabyddiedig am bobi cacennau, a Rhian Mostyn Jones, sydd gydai’i gwr Gareth Wyn Jones yn rhedeg fferm ddefaid mynydd deuleuol Ty’n Llwyfan yn Llanfairfechan.

“Rydym wedi penderfynu cadw’r meini prawf mor eang â phosib er mwyn annog amrywiaeth,” esboniodd Tegwen Morris, “er gallai hynny wneud ein tasg yn anoddach. Byddwn yn gofyn i bawb sy’n ceisio gynnwys darn o bapur gyda rhestr o gynhwysion ei Bara Brith arno, gan y bydd yn helpu’r broses feirniadu.”

Yn ymuno â’r Merched y Wawr fel partner yn y Bencampwriaeth mae Go North Wales, Canolfan Bwyd Cymru Bodnant a Siambr Fasnach Llandudno.

“Pa ffordd well i godi proffil un o’n cynnyrch bwyd Cymreig mwyaf eiconig na thrwy gynnal Pencampwriaeth Bara Brith y Byd Cresion Jones,” meddai Jim Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Go North Wales, a baratôdd blog yn ddiweddar ar Bara Brith i dwristiaid o dramor. “Bydd y digwyddiad yn siwr o’n helpu ni i allu hyrwyddo ein cynnig ardderchog o fwyd a diod i ymwelwyr yn yr ardal.”

I gyd-fynd â’r Bencampwriaeth, bydd Siambr Fasnach Llandudno yn cydlynu “Llwybr Cacennau” o gwmpas detholiad o fusnesau manwerthu yn y dref, a bydd Canolfan Fwyd Cymru Bodnant yn pobi’r Bara Brith buddugol i’w werthu at y Nadolig.

“Nid yn unig bydd yr enillydd yn cipio’r teitl anrhydeddus o Bencampwr Pobi Bara Brith y Byd, sydd gyda llaw yn llawer mwy o gamp na ennill y ‘Great British Bake Off’”, meddai Geraint Hughes, “bydd o neu hi yn cael y cyfle o weld ei bara birth nhw’n bersonol yn cael ei gynhyrchu gan grefftwyr pobi Bodnant i’w werthu i’r cyhoedd.”Bydd angen i bobyddion sydd am gystadlu gofrestru o flaen llaw erbyn hanner nos, nos Sadwrn Tachwedd 12fed, drwy e-bostio blas@madryn.co.uk neu ffonio 01758 701380. Cwmni Creision Jones fydd yn gweinyddu a chydlynu’r Pencampwriaeth, a gellir derbyn y newyddion diweddaraf ar ei gwefan www.madryn.co.uk neu o’i cyfrif trydar @JonesoGymru

Caiff yr enillydd ei gyflwyno ar ddydd Gwener, Tachwedd 18fed yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno.

Pencampwriaeth Bara Brith y Byd

Yn lansio Pencampwriaeth Bara Brith y Byd Creision Jones yng Nghanolfan Fwyd Cymru Bodnant mae, chwith i’r dde, Jim Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Go North Wales, Geraint Hughes, Cyd-berchennog Creision Jones, Simon Burrows, Rheolwr Datblygu Busnes yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant, Barry Mortlock, Swyddog Datblygu Ffair Nadolig Llandudno, Gary Worrell, Crefftwr Pobi yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant ac Eileen Burrows of Siambr Fasnach Llandudno.

]]>
http://awr.cymru/pencampwriaeth-bara-brith-y-byd/feed/ 0 260
Defnydd o Facebook yn y Gymraeg yn yr UDA http://awr.cymru/defnydd-o-facebook-yn-y-gymraeg-yn-yr-uda/ http://awr.cymru/defnydd-o-facebook-yn-y-gymraeg-yn-yr-uda/?noamp=mobile#respond Fri, 02 Sep 2016 19:28:40 +0000 http://awr.cymru/?p=229

Nifer o gyfrifon cofrestredig yn yr UDA
OedranGwrywBenywCyfanswm
13-161,100,0001,200,0002,300,000
16-2523,000,00024,000,00047,000,000
26-3524,000,00024,000,00048,000,000
36-4516,000,00019,000,00035,000,000
46-5513,000,00017,000,00030,000,000
56-65+14,000,00022,000,00036,000,000
13-65+91,100,000107,200,000198,300,000
Nifer o gyfrifon yn yr UDA sydd wedi ticio'r blwch Cymraeg
OedranGwrywBenywCyfanswm
13-16202040
16-254,4001,7006,100
26-351,6007302,330
36-457705101,280
46-55560180740
56-65+6504501,100
13-65+8,0003,59011,590

]]>
http://awr.cymru/defnydd-o-facebook-yn-y-gymraeg-yn-yr-uda/feed/ 0 229
Defnydd o Facebook yn y Gymraeg yn yr Ariannin http://awr.cymru/defnydd-o-facebook-yn-y-gymraeg-yn-yr-ariannin/ http://awr.cymru/defnydd-o-facebook-yn-y-gymraeg-yn-yr-ariannin/?noamp=mobile#respond Thu, 01 Sep 2016 15:52:01 +0000 http://awr.cymru/?p=223
Nifer o gyfrifon cofrestredig yn yr Ariannin
OedranGwrywBenywCyfanswm
13-15370,000420,000790,000
16-255,000,0005,000,00010,000,000
26-353,800,0003,800,0007,600,000
36-452,400,0002,600,0005,000,000
46-551,300,0001,500,0002,800,000
56-65+1,000,0001,500,0002,500,000
13-65+13,870,00014,820,00028,690,000
Nifer o gyfrifon yn yr Ariannin sydd wedi ticio'r blwch Cymraeg
OedranGwrywBenywCyfanswm
13-15202040
16-251,1004501,550
26-35180110290
36-459050140
46-55302050
56-65+7040110
13-65+1,4906902,180

]]>
http://awr.cymru/defnydd-o-facebook-yn-y-gymraeg-yn-yr-ariannin/feed/ 0 223